o Lwydarth ym mhlwyf Llangynwyd ym Morgannwg. Ei dad a'i ewythredd a ddechreuodd arfer y cyfenw ' Powel,' a'u disgynyddion hwy oedd ' Poweliaid ' Tir Iarll a'r cyffiniau. Ychydig a wyddom amdano, ond, yn ôl pob tebyg, ef oedd yr Antoni Powel a weithredai fel stiwart i'r teulu Mansel Margam. Y mae'n eglur ei fod ef, fel cynifer o'r teulu, yn ymddiddori mewn llenyddiaeth, ac fe'i henwir gan Lewis Dwnn fel un o'r gwŷr bonheddig a ddangosodd iddo ' hen Regords a llyfrau y tai o grefydd ' ac fel gŵr a sgrifennodd ' am holl ynys Brydain.' Cyfeirir, y mae'n eglur, at waith achyddol. Ond yr unig un o'i lawysgrifau sydd ar glawr heddiw (cyn belled ag y gwyddys) ydyw ' Llyfr Du Pantylliwydd ' (Llanover E 3), a gynnwys achau a'r defnydd arferol a leinw lyfrau'r arwyddfeirdd. Y mae hon, yn ôl pob tebyg, yn ei law ef. Ond priodolodd ' Iolo Morganwg ' bob math o bethau iddo, megis brut, hanes eisteddfodau, trioedd, hanes beirdd Morgannwg, etc. Mynnai hefyd ei fod yn fardd ac yn un o Undodwyr cynnar y sir. Tebyg mai'r cyfeiriad ato yn llyfr Lewis Dwnn a barodd iddo ei wneuthur yn gymeriad mor amlwg yn yr ysgrifau ffug.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.