Bardd o Lanfrynach, sir Frycheiniog.
Cynhwyswyd ei gân 'Fel ar y Môr o Wydr' yn Ffarwel Weledig (1766), t.50 Pantycelyn; ac argraffwyd hi droeon wedyn ar ffurf baled. Fe gyhoeddwyd rhai o'i gyfansoddiadau, sef Can Ysgrythyrol yn gosod allan daith y Cristion, fel ar Mor o Wydr (Merthyr, B. Morgan, c.1820), a Can Newydd yn gosod allan daith y Cristion fel ar Mor o Wydr (Swansea, E. Griffiths, c.1830). Saer ydoedd wrth ei alwedigaeth.
Bu farw 5 Mehefin 1785, 'yn 64 oed', a'i gladdu yn Llanfair ym Muellt ar 8 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.