Ganwyd ym Maes y Cletwr, Brychgoed, sir Frycheiniog. Ni wyddys ddim am ei fagwraeth a'i addysg fore. Arholwyd ef, ar ran y Bwrdd Cynulleidfaol, 29 Mawrth 1697, gyda golwg ar roi cwrs o addysg academi iddo; cymeradwywyd ef i academi Saffron Walden dan Thomas Payne, ond nid yw ei enw ymhlith enwau'r myfyrwyr yno sydd ar gael. Tystia diddordeb y Bwrdd Cynulleidfaol ei fod yn ŵr o allu a dawn arbennig ar gyfer y weinidogaeth. Derbyniodd roddion o £5 yn flynyddol oddi wrth y Bwrdd yn 1697, 1699, 1702, 1703, a 1704. Dychwelodd i Frycheiniog yn 1700, ac urddwyd ef yn weinidog eglwys Beilihalog, a ddaeth yn ganolfan ysbrydol y cylchoedd. Yn 1709 cyhoeddodd Y Gwrandawr, cyfieithiad o lyfr Saesneg Dr. John Edwards, Rhydychen, Yn 1711 cyhoeddodd gyfieithiad o lyfr Eliseus Cole ar benarglwyddiaeth. Ef oedd goleuad mawr y weinidogaeth Annibynnol ym Mrycheiniog yn ei gyfnod. Pregethai lawer ar hyd Frycheiniog a De Cymru. Yr oedd yn ŵr dysgedig a diwylliedig a chanddo ddawn i ddehongli'r efengyl i werin gwlad. Er colled mawr i Gymru, ymfudodd i America yn 1712. Ymsefydlodd yn Cohensey, New Jersey, fel gweinidog yr eglwys Annibynnol, ac yno y bu farw yn 1716. Camarweininol yw gosodiad William Rowlands ('Gwilym Lleyn') mai Bedyddiwr ydoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.