POWELL, HOWELL (1819 - 1875), gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A., ac awdur

Enw: Howell Powell
Dyddiad geni: 1819
Dyddiad marw: 1875
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A., ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 26 Hydref 1819 yn Tŷ Newydd, Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Bu'n gweithio yng ngwaith haearn Ynyscedwyn ac wedi hynny (1832) symudodd i Dredegar. Ymfudodd i U.D.A. yn 1842, ac ymsefydlodd yn Abersiwgr, Pennsylvania. Ordeiniwyd ef yn 1846. Yn 1851 symudodd i Cincinnati lle y bu'n gofalu am eglwys Gymraeg y Methodistiaid Calfinaidd hyd 1869, pryd yr aeth i Efrog Newydd i ofalu am eglwys arall. Cyhoeddodd, 1871, Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd (gyda John Edwards, 1806 - 1887), ac, yn 1873, Cofiant … William Rowlands, D.D., Utica, Efrog Newydd. Bu farw 23 Mawrth 1875. Cyhoeddwyd cofiant iddo yn New York, gwaith Thomas Levi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.