POWELL, JONATHAN (1764 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Jonathan Powell
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1823
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, yn 1764. Yng Ngodrerhos, Morgannwg, y dechreuodd bregethu. Yn 1790 cafodd alwad i Raeadr Gwy, Maesyfed, ac yno yr urddwyd ef. Helbulus fu ei hanes yno. Ymddengys ei fod yn ddisgyblwr llym, a mynnai ddiarddel rhywrai a goleddai syniadau Sabelaidd, ond ni chytunai yr eglwys ag ef a phenderfynodd ymadael. Yn 1798 symudodd i ofalu am eglwysi Rhosymeirch a Chapel Mawr, Môn. Ychydig oedd nifer y gweinidogion yn y sir i gyd pan ddaeth ef yno, a bu â rhan mewn sefydlu amryw eglwysi, ac yn ei gyfnod cofrestrwyd cynifer ag 28 o leoedd i'r Annibynwyr addoli ym Môn. Yr oedd yn ŵr dawnus a galluog, yn fyfyriwr dyfal a gyfrifid yn un o wŷr blaenaf yr enwad yn y Gogledd. Cyfieithodd rai llyfrau Saesneg yn Gymraeg ac yr oedd yn emynydd o gryn fri. Yn 1796 cyhoeddodd lyfryn o emynau o'i waith ei hun, Llawenydd yn Nglyn Wylofain, ac yn 1805 Y Credinwyr yn Angau, a gymerwyd allan o waith Thomas Watson. Lluniodd farwnad i Richard Tibbott, 1798. Ymddeolodd oherwydd gwendid yn 1821. Bu farw 6 Gorffennaf 1823, a chladdwyd ef ym mynwent capel Rhosymeirch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.