Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, 27 Rhagfyr 1788. Addysgwyd ef i ddechrau mewn ysgol a gedwid gan weddw a'i merch yn y pentref ac wedi hynny yn ysgol yr Eglwys, lle y gorfu iddo oddef gwaradwydd y ' Welsh Note ' am siarad Cymraeg. Yn hytrach na dilyn crefft ei dad fel gwehydd aeth at ewythr i ddysgu gwaith crydd. Yn y Brychgoed yn 1807 y derbyniwyd ef yn aelod gan Peter Jenkins, cyfaill personol i Williams, Pantycelyn, ac ef hefyd a'i hanogodd i ddechrau pregethu yn 1808. Yn 1812 cafodd le yn athro ar blant un Evan Price, Cerrigbwbach, ger Pentretygwyn, yn ogystal ag ar blant y gymdogaeth, ar yr amod fod y gŵr hwnnw yn ei gynnal a dysgu Lladin a Groeg iddo. Blwyddyn a fu wrth y gwaith hwn; cafodd drwydded i bregethu 16 Tachwedd 1812. Ym Mai 1813 urddwyd ef yn weinidog eglwys Capel Isaac, Sir Gaerfyrddin. Yn 1827 cytunodd i gymryd gofal eglwys Annibynnol yng Nghaerdydd a sefydlasid y flwyddyn flaenorol ac a ddaeth i'w hadnabod fel Ebeneser. Nid oedd yno gapel iddo ond ymhen y flwyddyn agorwyd capel newydd gan yr eglwys. Bu yno hyd 1850 pryd yr ymddeolodd oherwydd llesgedd; bu farw 16 Medi 1869 a chladdwyd ef gerllaw capel Ebeneser.
Gŵr gwreiddiol ac od, llawn arabedd a ffraethineb parod, ydoedd. Daeth yn enwog fel casglwr arian at ddiddyledu ei gapel ei hun a chapeli eraill, a theithiai draws y wlad wrth y gwaith; ymwelodd â Llundain a rhannau o Loegr a niferus y straeon a adroddir amdano ar y teithiau hyn. Er nad oedd yn bregethwr mawr cyrchai pobl i'w wrando ar gyfrif hynodrwydd ei ddull a'i ymadroddion. Cyhoeddodd lyfryn o farddoniaeth, Llwyddiant i'r Ceinciau, a llu o farwnadau; sathredig i raddau oedd ei iaith a'i arddull. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o hunangofiant, Hanes Bywyd... Lewis Powell, Caerdydd, 1853-1869, ganddo ef ei hun, 1860.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.