mab Hopcyn Powel, a nai i Antoni Powel o Lwydarth. Fe'i hyfforddwyd yng nghelfyddyd cerdd dafod, a cheir chwech o'i gywyddau yn llaw Tomas ab Ieuan o Dre'r-bryn yn llawysgrif Llanover B 1. Ychydig a wyddom amdano, ond dengys y marwnadau a ganwyd iddo gan Edward Dafydd a David Williams ('Dafydd o'r Nant') ei fod yntau, fel ei ewythr, yn achydd ac yn ŵr cyfarwydd â chelfyddyd herodraeth. Ond cyn belled ag y gwyddys, nid oes dim o'i waith ar glawr. Priodolir pob math o bethau iddo yn llawysgrifau ' Iolo Morgannwg ' ond gellir barnu mai ffug ydynt bron i gyd. Y mae'n bosibl, er hynny, fod rhai ohonynt wedi eu seilio ar lawysgrifau o'i waith a welsai ' Iolo ' yn Nhir Iarll a'r ardaloedd cylchynol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.