Ganwyd yn rhywle ym Maldwyn. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn Hydref 1648, ac ymaelododd yn y brifysgol fis Mawrth 1648. Tystia Anthony Wood iddo fod yn athro 'Presbyteraidd' iawn ar ysgol yng Nghymru, 1653-5 (nid ymddengys ei enw, fodd bynnag, yn rhestrau'r Dr. Thomas Richards o ysgolfeistri'r Weriniaeth yng Nghymru); ond dychwelodd i Rydychen yn 1655 a graddiodd o Goleg Christ Church, 6 Mai 1656. Yn 1657, penodwyd ef yn brifathro ysgol Goleg Magdalen. Collodd ei le ar yr Adferiad; bu wedyn yn cadw ysgol mewn amryw fannau yn Lloegr; a chyhoeddodd amryw werslyfrau - ' a noted professor in the art of pedagogy,' chwedl Wood. Bu farw yn Rhydychen 25 Tachwedd 1671.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.