PRITCHETT teulu clerigol yn Sir Benfro, ond yn wreiddiol o ochrau Seisnig y Mers

Honnent eu bod yn disgyn o John de la Bere, ' menestr ' Gwilym Goncwerwr, a digwydd yr enw ' Delabere ' ddwywaith isod; ond yng nghofnodion y prifysgolion am wahanol Pritchetts (o siroedd Henffordd a Chaerwrangon), gelwir tadau'r rheini'n 'werinwyr' lle na bônt yn glerigwyr.

RICHARD PRITCHETT

Daeth Richard Pritchett o Richard's Castle (ar ffin siroedd Henffordd ac Amwythig) i dref Arberth, yn rhan ola'r 17eg ganrif, yn feddyg trwyddedig, a bu'n ymarfer ei alwedigaeth yno 'am lawer o flynyddoedd'; priododd â Sarah, ferch Charles Evans o Ben-y-wenallt a chwaer Theophilus Evans (Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., ii, 247). Daw dau o'i feibion dan sylw. Yr hynaf oedd

RICHARD PRITCHETT (1709 - 1772)

Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1727, ac a raddiodd yno yn 1731, ond o Goleg y Brenin yng Nghaergrawnt y cafodd ei M.A. yn 1736. Priododd â'i gyfnither, ferch Josiah frawd Theophilus Evans (Theophilus Jones, loc. cit.); cafodd reithoraeth Richard's Castle, a bu farw yno 14 Hydref 1772.

Brawd iau iddo oedd

DELABERE PRITCHETT (1713 - 1801)

Na wyddys ddim am ei yrfa fore ond nad oedd yn ŵr gradd, ac na ddigwydd ei enw chwaith yn recordiau'r prifysgolion. Fis Gorffennaf 1738 penodwyd ef yn athro'r ysgol ramadeg a gynhelid gan gabidwl Tyddewi (W. Wales Hist. Records, vi, 15, 23 - daliodd y swydd hyd 1754); yn 1742 daeth yn is-gantor yn yr eglwys gadeiriol; ac ar 14 Tachwedd 1743 rhoes yr esgob iddo fywoliaeth fechan Caeriw ('Carew'), a ddaliodd hyd ei farwolaeth - y mae'n amlwg na phreswyliodd yno, ond adroddir iddo ddifodi'r groglofft hardd, eithr ar y llaw arall iddo roi (neu adael) arian at helaethu cyflog y ficeriaid (Spurrell, Hist. of Carew). Ar 25 Gorffennaf 1752 penodwyd ef yn gurad parhaol plwyf Tyddewi (W. Wales Hist. Records, iii, 279). Bu farw yn Nhyddewi yn 1801 (Gents. Mag., 1801 ii, 1214-5) 'yn 87 oed, wedi bod yn is-gantor am 58 mlynedd ac yn offeiriad plwyf am 49' - gwelir fod ei gyswllt â Chaeriw 'n cael ei anwybyddu. Chwanegir iddo weithredu fel meddyg yn yr ardal, gan nad oedd feddyg trwyddedig yn nes ati na Hwlffordd, 16 milltir ymaith; a bod ganddo ddau fab a dwy ferch, a rhes hir o ŵyrion.

Efeilliaid oedd y meibion, mor debyg i'w gilydd nes eu cymysgu'n fynych yng Nghaergrawnt; ond nid aethant yno yn yr un flwyddyn.

RICHARD PRITCHETT (1743 - 1811), rheithor

Ganwyd yn Nhyddewi 29 Mehefin 1743) yn ysgol Marlborough; aeth i Goleg S. Ioan yng Nghaergrawnt yn 1759. Graddiodd (3ydd dosbarth mewn mathemateg) yn 1763 (B.D. 1773), ac etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg yn 1764; daliodd amryw swyddi ynddo, 1771-82; penodwyd ef yn rheithor Layham (Suffolk) yn 1781, a bu farw yno 17 Rhagfyr 1811.

Bu ei frawd

CHARLES PIGOTT PRITCHETT (1743 - 1813), prebend

yntau yn Marlborough ac aeth i Goleg S. Ioan yn 1760; graddiodd (yn ' honorary wrangler,' h.y. â safle cyfatebol i'r dosbarth blaenaf mewn mathemateg) yn 1764. Yn 1767 yr oedd yn gaplan Coleg y Brenin (nid yn gymrawd fel y dywed y D.N.B.); ond dychwelodd i Ddyfed yn 1780, pan benodwyd ef gan John Campbell o Cawdor (yr oedd yn gaplan iddo) yn rheithor S. Petrox gyda Stackpole Elidyr (W. Wales Hist. Records, iii, 304), a chyda hynny yn 1782 (op. cit., i, 269) yn ficer Castell Martin; o 1795 hyd 1796 yr oedd hefyd yn gylch-brebendari yn Nhyddewi (op. cit., v, 221), ond newidiodd y swydd honno yn 1796 (op. cit., v, 195) am brebend St. Nicolas, a ddaliodd hyd ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth. Anne Rogers, o Sir Benfro, oedd ei wraig. Bu farw 9 Awst 1813 yn S. Petrox. Cyn ei farwolaeth yr oedd ei brebend wedi ei rhoddi (op. cit., v, 195 - ond y mae'r nodyn yn gamarweniol), ym mis Gorffennaf, i'w fab Delabere.

DELABERE PRITCHETT (bu farw 1841)

Aeth i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt yn 1792 a graddiodd (ail' ddosbarth mewn mathemateg) yn 1796. Bu ef farw yn 1841.

JAMES PIGOTT PRITCHETT (1789 - 1868), pensaer

Roedd mab arall i Charles Pigott Pritchett yn bensaer o gryn fri yng Nhaerefrog, Annibynnwr, a dyngarwr blaenllaw yn ei ddinas - y mae ysgrif arno yn y D.N.B.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.