Ganwyd 22 Medi 1837 yn Llanelli, sir Frycheiniog. Yn eglwys Siloam yno y dygwyd ef i fyny a bu dan ddylanwad dau ŵr nodedig a fu'n weinidogion arni, sef John Davies, Caerdydd, a David Richards, Caerffili. Yn 1860 daethai diwygiad nerthol i'r cylch a gafodd gryn effaith arno ac ' wedi argyhoeddiad llym a thanllyd iawn ' derbyniwyd ef yn aelod. Dechreuodd bregethu yn 1862 ac aeth i ysgol baratoi y Parch. Henry Oliver, Pontypridd. Derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu yn haf 1863. Gwnaeth gynnydd cyflym gyda'i efrydiau a daeth yn bregethwr eithriadol boblogaidd, ac ymhell cyn iddo orffen ei gwrs yr oedd eglwys Bodringallt neu Gelligaled gynt wedi ymserchu ynddo. Urddwyd ef yno fel ei gweinidog cyntaf, Gorffennaf 1867. Bryd hynny yr oedd Cwm Rhondda yn dechrau datblygu a phobl o'r wlad yn dylifo yno wrth y miloedd. Aeth ati ar unwaith i sefydlu achosion newydd yn y gymdogaeth. Sefydlwyd eglwys Seilo, Ystrad, a chodwyd capel yno, ac achos Saesneg yn y Ton; ef hefyd a gychwynnodd yr achos yng Nghwmparc. Yn 1872 cyfyngodd ei lafur i eglwys Seilo, Pentre. Yn 1874 symudodd i Salem, Porthmadog, yn olynydd i William Ambrose, a sefydlodd eglwys arall yno a chodwyd capel er cof am ei ragflaenydd (a adnabyddir fel y Capel Coffa) yn 1877. Gofalodd am y ddwy eglwys hyd 1886, pryd y dychwelodd i'w hen faes yn Seilo, Pentre. Ar 20 Ebrill 1898 dewiswyd ef yn brifathro Coleg Bala-Bangor ar ôl E. Herber Evans. Am yr eiltro yn eu hanes yr oedd yr Annibynwyr wedi methu â chytuno i sefydlu un coleg diwinyddol i'r enwad, a thua'r adeg y daeth Dr. Probert i Fangor penderfynwyd cydweithio â Choleg y Bedyddwyr er paratoi myfyrwyr ar gyfer gradd B.D., a chydnabu Prifysgol Cymru y trefniant fel un boddhaol. Ar achlysur yr arbrawf hwn profodd y prifathro newydd ei hun yn arweinydd doeth a chraff. Yn ei amser ef hefyd y symudwyd o'r Poplars i'r adeilad lle y mae'r coleg ar hyn o bryd. Cyhoeddodd Y Weinidogaeth Ymneilltuol yng Nghymru, 1882, Esboniad ar y Rhufeiniaid, 1890, Esboniad ar yr Effesiaid, 1892, Crist a'r Saith Eglwys, 1894, a Nerth y Goruchaf, 1906. Yn 1901 etholwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Cyfrifid ef yn bregethwr o'r radd flaenaf, yn ddiwinydd praff (er yn tueddu i fod yn geidwadol ei ddaliadau), ac, yn fwy na dim, yn meddu ar ddynoliaeth bendefigaidd. Bu farw yn ddisymwth 29 Rhagfyr 1908, a chladdwyd ef ym mro ei faboed yn Llanelli, sir Frycheiniog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.