PRYS, JOHN ('Philomath '; 1739? - 1786?), almanaciwr

Enw: John Prys
Ffugenw: Philomath
Dyddiad geni: 1739?
Dyddiad marw: 1786?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: almanaciwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Enid Pierce Roberts

Brodor o Fryneglwys yn Iâl ydoedd a bu'n byw ar un adeg ym Mryn-y-llwynog, ym mhlwyf Llandysilio, sir Ddinbych. Cyhoeddodd almanac bob blwyddyn yn gyson o 1739 hyd 1786 o leiaf. Wybrenawl Genadwri oedd ei enw ar y cyntaf ond newidiodd ef i Dehonglydd y Ser yn 1747. Er nad oedd safon almanaciau John Prys cyfuwch â safon almanaciau Gwilym Howell, cynhwysent lawer o gynhyrchion gwreiddiol llenorion y cyfnod yn farddoniaeth a rhyddiaith. Ymddiddorai yn yr eisteddfodau a cheir hanes amdano'n barnu yn eisteddfod Glynceiriog, 1743.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.