Ganwyd yn Lerpwl yn 1794/5. Ef oedd capten y fflat Ann (60 tunnell) - hon oedd ' Fflat Huw Puw ' (J. Glyn Davies). Llong o Lerpwl ydoedd, ac yr oedd Hugh Pugh yn gapten arni yn 1840 neu'n gynt, ac yn berchen cyfrannau ynddi. Tradiai'n bennaf rhwng Runcorn, Lerpwl, a Chaernarfon. Symudodd i Gaernarfon i fyw, ac oddi yno i'r Barras, Llanidan. Collwyd y fflat ar Ynysoedd S. Tudwal, 18 Hydref 1858, ar fordaith i Abermaw. Bu Hugh Pugh farw yn Llanidan a'i gladdu yno 10 Awst 1865.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.