Ganwyd yn 1749 yn Nolgellau, mab ieuengaf Hugh a Jane Pugh, ac felly'n frawd i David Pugh a John Pugh. Bu yn ysgol un Conant yn Truro, Cernyw, cyn mynd i Goleg Exeter, Rhydychen, yn 1768; graddiodd yn 1772. Bu'n gurad yn Neston ac yn gurad parhaol Lee Brockhurst, Sir Amwythig, cyn cael ficeriaeth Donnington, swydd Lincoln, 1794-1825. Enwir ef yn aml yn llythyrau Thomas Charles o'r Bala ceisiodd berswadio Charles rhag cefnu ar yr Eglwys. Fel un o ysgutorion ewyllys ei frawd John cafodd gyfle i ateb holiadau Charles ynglŷn â chynorthwyo ei ysgolion a Chymdeithas y Beiblau. Bu farw 16 Chwefror 1825.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.