Ganwyd yn 1739 yn Nolgellau, mab Hugh a Jane Pugh. Aeth i Goleg Hertford, Rhydychen, 1758, a graddio yn 1762. Rhoddwyd iddo reithoraeth Eglwys Fair, Trefdraeth, Sir Benfro, 1770 (fe'i cynigiasid i Daniel Rowland flwyddyn ynghynt) a bu yno o 1770 hyd ei farw. Ymwelai yn gyson â Boweniaid Llwyngwair, Sir Benfro; yno, efallai, y cyfarfu â John Wesley gyntaf. Credai mewn Methodistiaeth - ei seiat, ei hysgol Sul - a mynychai gyfarfodydd pregethu, ond ni bu'n amlwg yn ei llysoedd. Pan ddaeth sôn am fudiad ordeinio, a digwydd hynny yn 1811, ffromodd Pugh, ac o dan ddylanwad ei gymydog David Griffith, Nanhyfer, troes i ymosod ar ei gyfeillion (Thomas Charles yn enwedig) a gefnogai y neilltuad. Yr oedd yn Nhrefdraeth gapel a godwyd 'by the voluntary contributions of divers well disposed persons' (1799) - teulu Llwyngwair yn bennaf. Gwrthododd Pugh adael i gefnogwyr mudiad yr ordeinio esgyn i'w bulpud; o ganlyniad, aeth capel Eglwys Fair, Trefdraeth, yn gwbl o ddwylo'r Methodistiaid. Bu farw yn 1816 a chladdwyd yn Nhrefdraeth, 5 Rhagfyr 1816. Yr oedd Pugh yn gydnabyddus â Benjamin La Trobe, yr arweinydd Morafaidd. Brodyr iddo oedd John Pugh (1744 - 1799) a Robert Pugh.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.