RANDLES, EDWARD (1763 - 1820), telynor ac organydd dall
Enw: Edward Randles
Dyddiad geni: 1763
Dyddiad marw: 1820
Plentyn: Elizabeth Randles
Rhiant: Edward Randles
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor ac organydd dall
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith
Ganwyd yn Wrecsam, 1763, mab Edward Randles, cigydd yn y dref. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan John Parry, Rhiwabon. Yr oedd yn chwaraewr medrus ar yr organ, a phenodwyd ef yn organydd eglwys Wrecsam yn 1788. Cyfeiria George Thomson, Edinburgh, ato yn ei ragymadrodd i'w gyfrol Alawon Cymreig, 1809, fel telynor rhagorol. Bu ef a'i ferch Elizabeth Randles yn canu o flaen Siôr III a'r frenhines Charlotte. Bu farw yn Wrecsam 23 Awst 1820.
Awdur
- Robert David Griffith, (1877 - 1958)
Ffynonellau
- R. Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (1913)
-
Bye-Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1878
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908)
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20732972
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/