Amlinellir ei yrfa yn yr ail atodiad i'r D.N.B. (gan Alexander Gordon), ac adroddir hi'n llawn yn y cofiant (1905) gan ei ferch Eleanor Frances Rathbone. Aelod oedd ef, a aned 11 Chwefror 1819, o deulu yn Lerpwl y bu'r mab hynaf am chwe chenhedlaeth olynol yn dwyn yr enw ' William ' - enillodd cynifer â phedwar ohonynt le yn y D.N.B.
Crynwyr oedd y teulu ar y cychwyn, ond yn ddiweddarach tueddwyd hwy at Undodiaeth; buont yn llwyddiannus iawn mewn masnach, ond gyda hynny yr oeddynt yn ddyngarwyr hael a chydwybodol ac yn Radicaliaid ymroddedig.
Dygwyd William Rathbone i gyswllt â Chymru fis Tachwedd 1880, pan etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon; pan rannwyd yr etholaeth (1885), cynrychiolodd ranbarth Arfon o hynny hyd 1895, pan ymddeolodd am na chytunai â chenedlaetholdeb cynyddol boliticaidd ei gydaelodau Cymreig yn y Senedd. Cymerth ran flaenllaw yn nechreuadau Coleg y Gogledd (1884); teimlai ar y cychwyn nad doeth oedd gwrthod cydnabod y coleg yn Aberystwyth fel coleg i ogledd Cymru, eto ar ei gais ef, pan benderfynwyd ar Fangor, y lluniodd Henry Jones siarter i'r coleg newydd (gweler llythyr Rathbone, tt. 350-5 o'r Cofiant); casglodd a chyfrannodd arian at ysgoloriaethau; bu'n is-lywydd y coleg o'r cychwyn hyd 1892 ac wedyn yn llywydd hyd 1900. Bu'n weithgar iawn, yn y Senedd ac yn y wlad, gyda'r Mesur Addysg Ganolradd i Gymru (1889), a chymerai ddiddordeb neilltuol yn ysgol Bethesda, a oedd yn ei etholaeth ac a ymddangosai iddo'n gyfle i addysg dechnegol, mater agos iawn at ei galon. Bu farw 6 Mawrth 1902.
Yr oedd ganddo ewythr, Richard Rathbone; priododd mab i hwnnw, Richard Reynolds Rathbone (1820 - 1898) â Frances Susannah Roberts o deulu o Fôn (J. E. Griffith, Pedigrees, 134), a daeth i fyw yno. Merch iddo ef oedd MARY FRANCES RATHBONE (bu farw 1937), a fu hithau'n hynod barod ei chymwynas i Goleg y Gogledd ac i'r mudiad addysg pobl mewn oed, ac a gafodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.