REES, DANIEL (1793 - 1857), clerigwr ac emynydd

Enw: Daniel Rees
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1857
Rhiant: Ebenezer Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 8 Chwefror 1793, yn y Felin Newydd, Llangeler, Sir Gaerfyrddin, mab Ebenezer Rees. Addysgwyd ef yn ysgol Castell Hywel a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n gurad y Goetre, sir Fynwy, yn 1818-23, a phenodwyd ef yn gurad parhaus Aberystruth yn 1823. Bu farw 13 Mehefin 1857. Ar gais esgob Llandaf cyhoeddodd Casgliad o Psalmau a Hymnau (W. Rees, Llanymddyfri), yn 1831, a A Selection of Psalms and Hymns (Llanymddyfri) yn 1832. Bu'r ddau gasgliad yn boblogaidd iawn yn yr Eglwys Sefydledig, canys ymddangosodd 6ed argraffiad yr un Cymraeg yn 1860, a 7fed argraffiad yr un Saesneg yn 1858. Y mae ambell drosiad ac emyn gwreiddiol o'i waith yn y naill gasgliad a'r llall.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.