REES, DAVID (1683? - 1748), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a diwinydd

Enw: David Rees
Dyddiad geni: 1683?
Dyddiad marw: 1748
Rhiant: Rees David
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Dywedir ei eni yn 1683, yn fab i Rees David, amaethwr cefnog o gyffiniau Caerffili ac aelod selog yn eglwys Fedyddiedig yr Hengoed. Addysgwyd ef gan Samuel Jones ym Mrynllywarch, ac ymddengys ei fedyddio a'i gymell i bregethu yn yr Hengoed yn y 1700au cynnar, ar ddechrau gweinidogaeth Morgan Griffith.

Ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys Limehouse yn Llundain, yn 1709, ac yno y bu hyd ei farw, 26 Mai 1748, yn 64 oed. Y mae sôn amdano yn cymodi mewn dadl Arminaidd yn yr Hengoed yn 1730, a'i waith ef yn enw ei eglwys yw'r erthygl ynghylch arddodiad dwylo yn argraffiad 1721 o'r Gyffes Ffydd Gymraeg, ond cofir ef orau am ei ddadl fedydd â Fowler Walker, y Fenni, a'i weithiau ar y pwnc: (1) Adnodau ar rai Lleoedd Cableddus a Sarhaus o Lyfrau … ar Fedydd Plant, 1732, ac (2) Infant Baptism, No Institution of Christ, 1734. At hyn, cyhoeddodd (3) A Free and Sober Enquiry into the truth of certain paragraphs contained in the Assembly's Shorter Catechism, 1736; (4) Reasons for and against Singing of Psalms, 1737; a thair pregeth dan y teitlau (5) The State of True Religion in all Ages, 1726, a (6) A Modest Plea for the maintenance of the Christian Ministry, 1729, a (7) A View of the Divine Conduct, in the Government of this Lower World, 1730; ac argraffwyd ei bregeth angladdol gan Joseph Stennett dan y teitl The Everlasting Covenant the best Support, 1748.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.