Ganwyd 1751 yn y Gymrig, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, mab Rhys Rees, un o aelodau blaenllaw'r seiat Fethodistaidd yn Llanfynydd. Dechreuodd bregethu yn 1782 a daeth i amlygrwydd yn fuan yn y de a'r gogledd. Bu'n gydymaith unwaith i ' Williams, Pantycelyn ' ar daith bregethu. Cymerwyd ef i'r fyddin, ond rhyddhawyd ef trwy ddylanwad gŵr bonheddig o'r ardal. Neilltuwyd ef i'r weinidogaeth yn sasiwn ordeinio gyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Bu farw pan oedd ar daith, ym Mhontypridd, 10 Medi 1818, a chludwyd ei gorff i'w gladdu yn Llanfynydd. Cyfrifid ef yn ddiwinydd craff, a phregethai'n sylweddol ac yn rymus.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/