Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd ddechrau 1757, ger Llanglydwen. Bedyddiwyd ef yn 1778 yn Rhydwilym. Dechreuodd bregethu 'n union. Urddwyd ef Mehefin 1789. Er preswylio ohono ym Mhant-hywel, Trelech, bugeiliai Rydwilym a'i changhennau am gyflog blynyddol i'w was. Pregethai'n aml yng ngwyliau'r enwad, ac âi ar deithiau cenhadol. Perthynai i'r pregethwyr a gam-enwid, oblegid eu nwyd efengylu, yn ' bobl y tân dieithr.' Apwyntiwyd ef gydag eraill i bregethu ym mhlaid Calfiniaeth gymedrol yng Nghaerfyrddin yn 1799. Er na chyfrifid ef yn feddyliwr mawr nid oedd nemor neb yn fwy derbyniol nag ef. Dioddefodd am fisoedd cyn ei farw ar 21 Mai 1807. Canodd Joshua Watkins farwnad iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.