WATKINS, JOSHUA (1769/70 - 1841), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Joshua Watkins
Dyddiad geni: 1769/70
Dyddiad marw: 1841
Rhiant: Howell Watkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd, gellid meddwl, yn Llangynidr (Brycheiniog) — yr oedd yn un o ymddiriedolwyr tŷ cwrdd cyntaf y Bedyddwyr yno yn 1794 (D. Jones, Bed. Deheubarth, 655), a gall mai mab oedd i'r Howell Watkins y byddai'r Bedyddwyr yn cyfarfod yn ei dŷ cyn hynny (op. cit., 811). Ond aelodau yn Llanwenarth oedd Bedyddwyr Llangynidr gynt, ac yno, yn 1789 (op. cit., 658) y bedyddiwyd Joshua Watkins ac y dechreuodd bregethu (1790). Byddai'n cenhadu yn Llangynidr, yn Nhredegar ac ym mlaenau Rhymni. Yn 1793 symudodd i Gaerfyrddin i helpu ei gyfaill M. J. Rhys gyda'r Cylchgrawn Cynmraeg, ac y mae stori amheus (gweler J. J. Evans, Morgan John Rhys, 33-4) i'r ddau orfod ffoi o'r dref; sut bynnag, dychwelodd i'w gartref ar farw'r Cylchgrawn. Eithr ar 28 Mawrth 1796 urddwyd ef yn weinidog Penuel, Caerfyrddin. Y mae'n amlwg ei fod yn genhadwr selog; helaethodd ei gynulleidfa'n ddirfawr, a phlannodd achosion yng Nglan-y-fferi, Cydweli, Porth-y-rhyd, a mannau eraill. Eithr nid oedd ei olygiadau diwinyddol, fwy na'r eiddo M. J. Rhys, wrth fodd uchel-Galfiniaid y gorllewin; tynnwyd ef i mewn i'r dadleuon a arweiniodd yn 1799 i'r rhwyg ymysg y Bedyddwyr, ac yn y flwyddyn honno cefnodd ef a'i eglwys ar y Bedyddwyr Neilltuol; cawn ef yn 1801 (a'i enw wedi ei gam-godi'n ‘Joshua Mathias’) yn apelio at gymanfa'r Bedyddwyr Cyffredinol yn Llundain am help ariannol i'r enwad bychan yng Nghymru (Whitley, Minutes of the General Baptist Association). Ond perthynai Watkins i'r adran o'r Bedyddwyr Cyffredinol na fynnai fynd ymhellach tua'r aswy nag Arminiaeth, ac a ddychrynid gan dueddiadau Undodaidd amryw o'u cydweinidogion Cymreig; felly, yn 1805, ymchwelodd ef a'i gynulleidfa at y Bedyddwyr Neilltuol. Cafodd groeso mawr ganddynt; ymddengys ei enw ar unwaith ar restrau pregethwyr y cymanfaoedd (Traf. Cymd. Hanes Bed., 1942, 16), a cheir ef yn cydweithio â'i wrthwynebwr gynt, Titus Lewis yn y gwaith o edfryd cynulleidfaoedd coll megis y Tŷ Coch (Llangynog), 1806. Bu'n fawr ei boblogrwydd weddill ei fywyd. Dywed J.T.J. (ii, 609) fod ganddo fasnach yn y dref — efallai fel llyfrwerthwr; yn 1809 yr oedd yn argraffydd a chyhoeddwr, ar y dechrau gyda phartneriaid, ond o 1810 ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Bu farw 22 Mehefin 1841, ‘yn 71 oed’ meddai Ser. G. (1841; 223), yn ôl J.T. J. fe'i ganwyd yn 1769. Yr oedd ganddo fab yn feddyg; gweddw hwnnw oedd ail wraig H. W. Jones, gweinidog y Tabernacl, Caerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/