Ganwyd 9 Ebrill 1802 yn y Cwrt, Penrhyn-coch, Ceredigion, yn fab i John ac Elizabeth Jones. Eglwyswyr selog oedd ei rieni, a bwriedid iddo yntau fod yn glerigwr; eithr (nid heb gryn wewyr meddwl) troes at y Bedyddwyr, a bedyddiwyd ef (gyda'i fam) 25 Mawrth 1821. Gan nad oedd le iddo yn athrofa'r Fenni, aeth i goleg Bradford, a bu yno bedair blynedd. Ar 10 Ebrill 1828 urddwyd ef yn weinidog Ebeneser, Blaenafon; bu wedyn yn Nhredegar (Awst-Rhagfyr 1831), yn Charles Street, Casnewydd (1832-5), ac yn y Tabernacl, Caerfyrddin (1835-72).
Pregethai'n anwastad, ond ar adegau'n ysgubol iawn. Eithr odid nad ar y llwyfan ac yn y Wasg y bu'n fwyaf ei ddylanwad. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cryf, ac yn ddyn o gryn bwys yng ngwleidyddiaeth ei sir. Ddiwedd 1837, prynodd Seren Gomer, a chyhoeddodd ef o 1838 hyd ddiwedd 1850 (pryd y daeth yn eiddo i gwmni o weinidogion gyda'r Bedyddwyr), a bu'n gydolygydd iddo gyda'r hen olygydd Samuel Evans. Ysgrifennai gryn lawer i'r Seren; yn neilltuol, amddiffynnodd olygiadau ei gymydog gynt yn Nhredegar, J. P. Davies.
Bu'n briod ddwywaith; merch Titus Lewis oedd ei wraig gyntaf, a merch-yng-nghyfraith i Joshua Watkins oedd yr ail. Bu farw 1 Mehefin 1873.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.