Ganwyd yn Llwyn-y-piod, ger St Clears. Yn 1807 prentisiwyd ef gydag Evans, argraffydd, Caerfyrddin. Pan fu farw Joseph Harris ('Gomer') yn 1825 symudwyd swyddfa Seren Gomer o Abertawe i Gaerfyrddin, ac yn 1827 penodwyd Samuel Evans yn gyd-olygydd â D. D. Evans, ond llanwodd y swydd ei hun o 1835 hyd 1850, pryd y cyfrifid ef yn un o brif newyddiadurwyr Rhyddfrydol ei ddydd. Yn 1852 ymunodd â swyddfa William Owen yng Nghaerdydd, ac yno golygodd Seren Cymru hyd ddiwedd 1852, pan orffennwyd ei chyhoeddi, a'r Bedyddiwr o 8 Tachwedd 1854 hyd ei farwolaeth. Yr oedd hefyd yn ysgolhaig Cymraeg. Yn 1839 cyhoeddodd argraffiad diwygiedig o Eiriadur Dr. William Richards o Lynn, ac yn 1840 penodwyd ef gan Gymreigyddion y Fenni yn aelod o bwyllgor o bump a ddewiswyd i ddiwygio orgraff yr iaith Gymraeg. Ni chyfarfu'r pwyllgor erioed, ond cyhoeddodd Evans ei sylwadau ei hun ar y pwnc mewn cyfres o lythyrau yn Seren Cymru yn 1852 a gyhoeddwyd wedyn yn 1854 dan y teitl Y Gomerydd. Golygodd hefyd Y Cymro Bach, 1855, casgliad o weithiau Benjamin Price, a chyfieithodd lawer o esboniad y Dr. Gill yn y Gymraeg. Bu farw yng Nghaerdydd 30 Awst 1856, a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl (eglwys y Bedyddwyr), lle yr oedd yn aelod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.