EVANS, DAVID DAVIES (1787 - 1858), Pontrhydyrynn, gweinidog y Bedyddwyr, a golygydd

Enw: David Davies Evans
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1858
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr, a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 27 Mawrth 1787, yn Dolgoch, Sir Aberteifi. Magwyd ef ym Maesyberllan, eglwys ei dad, David Evans. Dechreuodd bregethu 21 Ionawr 1807, a bu 18 mis yng Ngholeg y Fenni. Derbyniodd alwad o'r Tabernacl, Caerfyrddin, i olynu Titus Lewis; ordeiniwyd ef ym Maesyberllan cyn mynd yno, a sefydlwyd 25 Mawrth 1812. Cliriodd ddyled yr addoldy newydd yno drachefn. Pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe'i cyfrifid yn un o arweinwyr doethaf yr enwad. Oblegid gwendid ymddeolodd yn 1857, gan fyned i Gaerdydd. Symudodd ymhen chwe mis drachefn i Gaerfyrddin. Wedi ei farwolaeth ar 29 Awst 1858 fe'i claddwyd ym Mhontrhydyrynn. Oblegid dadfeiliad iechyd trosglwyddodd Joseph Harris Seren Gomer a'i golygyddiaeth yn Ebrill 1825 iddo ef; eithr yn 1834 rhoes yntau ei golygyddiaeth i'w gynorthwywr Samuel Evans. Gwelid ei gynhyrchion yn y cyfnodolion, ac efe a ysgrifennodd ' Adnoddau Cymru ' yn Yr Adolygydd, a rhan o fywgraffiad John Williams, Trosnant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.