REES, SARAH JANE ('Cranogwen'; 1839 - 1916), ysgolfeistres, bardd, golygydd, a sefydlydd 'Merched y De'

Enw: Sarah Jane Rees
Ffugenw: Cranogwen
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1916
Partner: Jane Thomas
Rhiant: Frances Rees
Rhiant: John Rees
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: ysgolfeistres, bardd, golygydd, a sefydlydd 'Merched y De'
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi; Crefydd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 9 Ionawr 1839 yn Llangrannog, Sir Aberteifi, merch capten llong. Cafodd ei haddysg i gychwyn mewn ysgol yn Llangrannog a gedwid gan un Hugh Davies, a ddysgodd iddi elfennau morwriaeth ac ychydig Ladin. Bu hefyd mewn ysgolion yn Aberteifi, Ceinewydd, Lerpwl, ac yn Llundain, lle yr aeth i ddysgu morwriaeth, pwnc y bu hi yn ei ddysgu, ynghyd â mathemateg, mewn ysgol yn Llangrannog a agorodd hi ei hun ac a fynychid gan wyr y môr, etc. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr cyntaf dysgu system y tonic-solffa a daeth yn un o arholwyr lleol y Tonic Sol-fa College. Dechreuodd bregethu hefyd a bu'n darlithio llawer.

Enillodd y wobr am gân ar y testun, 'Y Fodrwy Briodasol,' yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth, 1865, gan guro 'Islwyn' a 'Ceiriog' yn y gystadleuaeth honno. Bu'n gyd-fuddugol yn eisteddfod genedlaethol y flwyddyn ganlynol ac enillodd y gadair mewn eisteddfod yn Aberaeron. Golygodd gylchgrawn i ferched, Y Frythones, 1878-91. Yn 1901 cychwynnodd y mudiad a elwir 'Undeb Dirwestol Merched y De.'

Bu farw 27 Mehefin 1916. Coffeir ei gwaith gan 'Ysgoloriaeth Cranogwen' yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth.

Nodyn golygyddol 2020:

Bu Cranogwen yn cyd-fyw am ugain mlynedd olaf ei hoes gyda'i chymar, Jane Thomas, yn Llangrannog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.