y dywedir amdano yn Swansea MS. 1 (277, 357) ei fod yn ŵr o Grymlyn (Cremlyn) yn sir Fôn. Ni wyddys unrhyw fanylion eraill amdano, ond cadwyd un awdl o'i waith (sef dychan i'r llwynog a laddasai ei ŵyn, a hefyd nifer o'i gywyddau mewn llawysgrifau; cynnwys y rheini un i Dduw, a rhai i Simwnt Thelwall o Blas y Ward, a'i drydedd wraig, Margred ferch Syr Wiliam Gruffydd o'r Penrhyn, Doctor Elis Prys o Blas Iolyn, a Sion Conwy. Canodd Gutun Tomas ac yntau ddychangerddi i'w gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.