ROBERTS, CARADOG (1878 - 1935), cerddor

Enw: Caradog Roberts
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1935
Rhiant: Margaret Roberts
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 30 Hydref 1878 yn Rhosllanerchrugog, sir Ddinbych; mab John a Margaret Roberts. Daeth y dalent gerddorol i'r golwg ynddo yn fachgen, ac enillodd amryw wobrwyon mewn eisteddfodau. Am gyfnod bu yn ddisgybl-athro yn yr ysgol elfennol; wedi hynny prentisiwyd ef yn saer, a gweithiodd y grefft am dair blynedd, ond rhoddodd y gwaith hwn i fyny, ac ymrodd i astudio cerddoriaeth. Cafodd ei wersi cyntaf ar y piano a'r organ gan Dan C. Owen, Rhos, wedi hynny bu dan addysg Norton Bailey, Dr. J. C. Bridge, organydd eglwys gadeiriol Caerlleon, a Herr Johannes Weingartner.

Yn 1894 penodwyd ef yn organydd capel Annibynwyr Mynydd Seion, Ponciau, a gwasnaethodd am naw mlynedd yno. Enillodd y radd o A.R.C.O. yn 1899, F.R.C.O. yn 1900, A.R.C.M. yn 1901, L.R.A.M. yn 1902. Ym mis Tachwedd 1905 cafodd radd Mus. Bac. yn Rhydychen. Yn 1911 derbyniodd y radd o Ddoethur mewn Cerddoriaeth, y Cymro ieuengaf, a'r cyntaf o Ogledd Cymru, i dderbyn y radd. Yn 1904 penodwyd ef yn organydd a chorfeistr capel Annibynwyr Bethlehem, Rhosllanerchrugog, a llanwodd y swydd hyd ei farwolaeth.

Bu yn gyfarwyddwr cerddorol Coleg y Brifysgol, Bangor, o 1914 hyd 1920, ac yn arweinydd cymdeithasau corawl y Rhos a Llandudno. Golygodd Y Caniedydd Cynulleidfaol, 1921, a Caniedydd Newydd yr yr yr Ysgol Sul, 1930. Gwasnaethodd yn gyson fel beirniad, organydd, ac arweinydd cymanfaoedd canu. Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol, a bu ei gân ' Bore'r Pasg '; ' Crossing the Bar ' (darn prawf yn eisteddfod genedlaethol Castellnedd, 1934; ' Cleddyf yr Ysbryd ' (eisteddfod Caernarfon, 1935); a'i anthem ' Yr Arglwydd yw fy Mugail,' yn boblogaidd. Cyfansoddodd a threfnodd lawer o donau, ac erys ' Rachie,' ' In Memoriam ' (a gyfansoddodd er cof am Harry Evans), ac amryw eraill o'i donau i gael eu canu gan ein cynulleidfaoedd crefyddol.

Bu farw 3 Mawrth 1935, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Rhosllanerchrugog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.