Ganwyd 7 Chwefror 1816 yn y Brithdir, ger Dolgellau, Sir Feirionnydd. Addysgwyd ef yn ysgolion y cylch, prentisiwyd ef yn saer coed, a bu'n dilyn ei alwedigaeth yn Llanbrynmair a Manceinion. Ymunodd â'r eglwys Annibynnol Gymraeg yn Gartside, Manceinion, a chymryd rhan amlwg yn ei gweithrediadau; diau i'r mudiadau Cymreig yn y ddinas ddylanwadu'n fawr arno. Dychwelodd i'r Brithdir yn 1838, a dechrau pregethu yno yn fuan. Bu yn ysgol baratoi Marton, 1838-1840, a derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu ym Mehefin 1840. Yr oedd yn fyfyriwr eithriadol ei wybodaeth, ei allu, a'i ddawn; rhagorai mewn athroniaeth, moeseg, a gwybodaeth ysgrythurol. Cafodd gynnig amryw o alwadau yn ystod ei dymor yn y coleg, un ohonynt o hen eglwys enwog Pencader, Sir Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn Seion, Cwmafon, 24 Awst 1844, lle y bu'n llwyddiannus am 43 o flynyddoedd. Cymerth ran flaenllaw ym mrwydr addysg, 1845-6, drwy ymosod ar weithrediadau perchenogion y gweithfeydd ac offeiriaid Eglwys Loegr ynglŷn ag addysg plant yn yr ysgolion dydd; penodwyd ef yn 'agent' y Normal College of Wales, a gofynnwyd iddo fod yn brifathro Coleg Aberhonddu. Ysgrifennodd chwe llythyr i'r Morning Post ym mhlaid addysg a rhyddid. Ar farwolaeth Evan Jones ('Ieuan Gwynedd') yn 1852, penodwyd ef yn olygydd Yr Adolygydd. Enillodd y wobr o £100 am draethawd yn Saesneg ar Syr Robert Peel. Bu farw 12 Mawrth 1887.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.