Ganwyd 30 Mawrth 1807 yn Henllan, ger Dinbych, mab Aaron a Jane Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref hyd yn 13 oed, a dwy flynedd wedi hynny gan y Parch. Thomas Jones, gweinidog yr Annibynwyr, Dinbych. Dysgwyd nodiant cerddorol iddo gan Thomas Daniel, Henllan, ac astudiodd lyfrau cerddorol ei hunan, a daeth i gynganeddu yn dda. Casglodd a chopïodd nifer mawr o'r hen donau a genid yn ystod diwygiadau crefyddol, ac a gyfansoddwyd gan gerddorion o dan ddylanwadau diwygiadau crefyddol. Rhoddodd rai ohonynt i John Parry, Caer, i'w hargraffu yn Peroriaeth Hyfryd, 1837. Yn 1839 dug allan Caniadau y Cysegr yn cynnwys 55 o'r hen alawon wedi eu cynganeddu ganddo - y casgliad cyntaf a gafodd y genedl. Yn 1876 ymgymerodd ei ddau fab â chyhoeddi casgliad o alawon eu tad. Bu'r tad farw cyn iddynt orffen y gwaith. Cyhoeddwyd y casgliad dan yr enw In Memoriam; cynnwys 11 o donau. Ar ôl llafur oes gyda chaniadaeth y cysegr bu John Roberts farw 4 Ebrill 1876, a chladdwyd ef ym mynwent y Groes, ger Dinbych.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.