Mab Thomas Roberts, Garthmorthin, Treflys, rhwng Porthmadog a Chricieth, Sir Gaernarfon - yr oedd o deulu ' Dafydd y Garreg Wen.' Pan oedd tuag 20 oed aeth i fyw gyda'i ewythr Griffith Roberts, yn y Tŷ Mawr, Treflys, ac yno y treuliodd ei oes, yn ddibriod. Yr oedd yn aelod selog o gymdeithas lenyddol Cefn-y-meusydd - gweler Owen, Ellis. Bu farw 19 Mehefin 1876 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Treflys. Ceir peth o'i waith yn NLW MS 1010C .
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.