Ganwyd 24 Mai (yn ôl y cofnod, ganddo ef ei hun mae'n debyg, yn Who's Who in Wales; dywed rhai ysgrifau coffa mai 22 Mai) 1871 ym Mhenmaenmawr, yn fab i Richard ac Ellen Roberts. Bu yn ysgol Botwnnog ac yng Ngholeg Bala-Bangor (1892). Aeth yn fugail i'r Felinheli yn 1895; o 1898 hyd ei farwolaeth, bu'n fugail y Tabernacl yn Llanelli. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, ac yn llenor prysur; sgrifennodd lawer i'r cyfnodolion; bu'n olygydd Y Diwygiwr (1906) yn un o olygyddion Y Dysgedydd (1912-4), ac yn unig olygydd iddo (1931-3). Golygodd waith Rhys J. Huws yn 1932; a chyhoeddodd yn 1912 ddwy gyfrol o'i ysgrifau. Yr oedd yn bryddestwr llwyddiannus; cafodd goron yr eisteddfod genedlaethol ddwywaith (Ffestiniog 1898, a Chaerdydd, 1899), ac yr oedd yn ail orau yn Abertawe, 1907. Cyhoeddodd yn 1898 gyfrol o farddoniaeth, Y Drain Gwynion. Yr oedd yn gofiadur Gorsedd y Beirdd ar adeg ei farw Bu farw 8 Gorffennaf 1935, ym Mhenmaenmawr; claddwyd yn Llanelli.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.