ROBERTS, WILLIAM (fl. 1745), bardd ac anterliwtiwr

Enw: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac anterliwtiwr
Maes gweithgaredd: Perfformio; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn y Mur Llwyd, Llannor, Sir Gaernarfon. Bu'n glochydd y plwyf, ac yr oedd yn gyfeillgar iawn â'r ficer, John Owen. Cyhoeddwyd un o'i weithiau, ' I Ofyn Pen Rhaw,' yn Blodeu-Gerdd Cymry, a cheir englynion ganddo yn Cwrtmawr MS 226B a Cwrtmawr MS 771B yn Ll.G.C. Ysgrifennodd hefyd anterliwt yn ymosod ar y Methodistiaid, sef Interlude Morgan y Gogrwr ar Cariadogs neu Ffrewyll y Methodistiaid; cyhoeddwyd hon yn 1745.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.