Ganwyd yn Llannerch-y-medd, 25 Medi 1809. Addysgwyd gan John Richards, offeiriad ei blwyf, a bu yn ysgol William Griffith, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Caergybi. Dechreuodd bregethu yng nghapel Hyfrydle, Caergybi, yn 1829. Aeth i Ddulyn am ychwaneg o addysg, crynhodd rai o Gymry Dulyn at ei gilydd, a thrwy hynny cychwynnwyd eglwys Gymraeg yn y ddinas honno. Fe'i cyfrifid yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd a godwyd yn sir Fôn erioed. Ordeiniwyd ef yn 1848. Cafodd alwad, 1855, i fugeilio eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Efrog Newydd, U.D.A., a thra bu yn y ddinas honno arolygodd argraffu'r Beibl Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd, 1858, gan Gymdeithas y Beiblau, U.D.A. Symudodd o Efrog Newydd yn 1877 i fugeilio eglwys Moriah (Methodistiaid Calfinaidd), Utica, talaith Efrog Newydd, a bu yno am 10 mlynedd, sef hyd ei farw. Bu'n olygydd Y Cyfaill (Utica); buasai eisoes yn golygu Y Traethodydd yn America o 1857 hyd 1860. Cyhoeddodd Darlith ar Elfennau Pabyddiaeth, 1855; Traethawd ar Etholedigaeth Gras, 1856; a Y Pechod o esgeuluso Moddion Gras, 1865. Bu farw 2 Hydref 1887.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.