Ganwyd yn Calico Building, Llundain, 10 Hydref 1807, ei rieni yn frodorion o Dregaron, Sir Aberteifi. Bu yn ysgol Ystrad Meurig, mewn ysgol yn Nhregaron, ac yn ysgol ramadeg John Jones (Llanbadarn) yn Llangeitho. Yn 1824 aeth i ardal Merthyr Tydfil yn athro ysgol; bu hefyd yn athro yn Nantyglo. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1826, a bu'n llafurio fel cenhadwr ymhlith y Saeson ar ororau siroedd Henffordd a Mynwy. Ar 20 Mawrth 1829 prynodd wasg argraffu Richard Jones ym Mhontypwl, a'r flwyddyn honno golygodd a chyhoeddodd Yr Athraw , misolyn at wasanaeth ysgolion Sul. Yn 1832 prynodd ran o waith glo Coed Duon ac agorodd siop yno. Urddwyd ef i'r weinidogaeth ar 9 Awst 1832. Collodd arian a gwerthodd ei fusnes. Yn Ionawr 1835 ailddechreuodd gadw ysgol.
Aeth Rowlands i Efrog Newydd, U.D.A., yn 1836; bu hefyd yn Utica, Scranton, a mannau eraill, gan barhau i bregethu. Ef a gorfforodd gymanfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn America ac a gyhoeddodd y misolyn Cymraeg cyntaf yn y wlad honno. Cyhoeddodd y gweithiau canlynol hefyd: Angau yn y Crochan (Dinbych, 1834); Dechreuad … y Methodistiaid Calfinaidd yn America (Utica, 1842); Y Gyffes Ffydd, 1842; Yr Hyfforddwr, 1842; Y Durtur … Emynau a Chaniadau Dirwestol, 1842; Yr Arweinydd esmwyth i ddysgu darllen Cymraeg, 1859 ac arg. eraill; The Welsh Calvinistic Methodists: A Sketch of their History, 1854; Casgliad Newydd o Salmau a Hymnau … Eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd yn America, 1845, ac arg. eraill; Darlith ar y Greadigaeth, 1858; a Dammeg y Mab Afradlon, 1860. Golygodd Y Cyfaill o'r Hen Wlad o Ionawr 1838 hyd 1866, ac ef a fu'n gyfrifol am gyhoeddi Y Dyddiadur Americanaidd, 1856, a phob blwyddyn wedi hynny hyd 1865. Bu farw 27 Hydref 1866 a chladdwyd ef ym mynwent Forest Hill.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.