Ganwyd 7 Tachwedd 1819 yn fab hynaf i Joseph Salisbury, Bagillt. Cododd o ddechreuadau dinod, ar ôl bwrw peth amser yn Lerpwl, i fod yn bennaeth gwaith nwy Caerlleon-fawr ac yn ŵr amlwg ym mywyd cyhoeddus y ddinas honno. Yn 1850, troes at y gyfraith gan ymaelodi yn yr Inner Temple, ac yn 1852 galwyd ef i'r Bar; cafodd lawer o waith fel dadleuydd gerbron pwyllgorau'r Senedd. Bu am gyfnod byr (1857-9) yn aelod seneddol (Rhyddfrydol) dros Gaerlleon. Casglodd lyfrgell anarferol helaeth o lyfrau ar Gymru a'r goror — hon, heddiw, yw ‘Llyfrgell Salisbury’ yng Ngholeg Caerdydd, ond y mae hefyd gryn nifer o'i lyfrau yn llyfrgell Coleg y Gogledd. Merch i'r gweinidog Annibynnol Arthur Jones o Fangor oedd ei briod. Bu farw yn Saltney, 27 Hydref 1890. Cafodd ei fab, PHILIP SALISBURY (a fu farw'n gynnar yn 1906), yrfa anturus fel milwr ym myddin Serbia ac wedyn yng ngwasanaeth y Belgiaid ar y Congo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/