SALUSBURY, Syr THOMAS (1612 - 1643), bardd ac uchelwr

Enw: Thomas Salusbury
Dyddiad geni: 1612
Dyddiad marw: 1643
Plentyn: Hester Cotton (née Salusbury)
Plentyn: John Salusbury
Plentyn: Thomas Salusbury
Rhiant: Hester Salusbury (née Myddelton)
Rhiant: Henry Salusbury
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac uchelwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd 6 Mawrth 1612, mab hynaf Syr Henry Salusbury, Llewenni, y barwnig 1af, a Hester, merch Syr Thomas Myddelton. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ond ni chymerodd radd. Aeth i'r Inner Temple i astudio'r gyfraith, Tachwedd 1631, ond pan bu farw'i dad, 2 Awst 1632, dychwelodd i Lewenni i ofalu am y stad. Etholwyd ef yn fwrdais o dref Dinbych, 10 Medi 1632, ac yn henadur, 1634-8 a 1639, a bu'n aelod seneddol tros ei sir o 1640 hyd ei farw. Ymladdodd yn y Rhyfel Cartref fel un o bleidwyr selog y brenin; credir iddo fod yn bresennol ym mrwydr Edgehill, 23 Hydref 1642, ac ychydig ddyddiau wedi hynny derbyniodd y radd o D.C.L. yn Rhydychen. Bu farw ym mis Gorffennaf 1643. Cyfeirir ato gan Anthony Wood fel ' a most noted poet of his time,' ond yr unig waith a erys ar glawr yw The History of Joseph, a poem (Llundain, 1636).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.