SHADRACH, AZARIAH (1774 - 1844), ysgolfeistr, gweinidog gyda'r Annibynwyr, awdur

Enw: Azariah Shadrach
Dyddiad geni: 1774
Dyddiad marw: 1844
Plentyn: Eliacim Shadrach
Rhiant: Ann Shadrach
Rhiant: Henry Shadrach
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, gweinidog gyda'r Annibynwyr, awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 24 Mehefin 1774 yn Garndeifo-fach, Llanfair Nant y Gof, Sir Benfro, yn bumed mab i Henry ac Ann Shadrach. Ac yntau'n 7 mlwydd oed symudodd y teulu i Burton yn rhan Seisnig y sir. Rhyw dair blynedd y bu yno cyn dychwelyd at ei fodryb i Drewyddel. O dan ddylanwad y Parch. John Phillips, ymaelododd gyda'r Annibynwyr. Cafodd ychydig addysg gan John Young, clochydd Nanhyfer, ond ei hyfforddi ei hun a wnaeth yn bennaf. Ymrwymodd yn was fferm i'r Parch. John Richards, gweinidog Trefgarn, Rhodiad, a Rhosycaerau, ar yr amod y câi ddarllen llyfrau'r gweinidog yn ei oriau hamdden. Yn Rhosycaerau y dechreuodd bregethu. Aeth ar daith bregethu drwy siroedd y De yn 1797, a thrwy'r Gogledd yn 1798. Perswadiodd Dr. George Lewis, Llanuwchllyn, ef i ymsefydlu yn y Gogledd. Bu'n cadw ysgol yn Hirnant, Pennal, Derwen-las, a Threfriw, ac yn pregethu o le i le. Yn 1802 urddwyd ef yn weinidog yn Llanrwst. Symudodd yn 1806 i gymryd gofal eglwysi Talybont a Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi. Yn 1816 dechreuodd bregethu cyson i'r Annibynwyr yn Aberystwyth, a chorfforodd eglwys yno, 30 Mai 1819. Rhoes i fyny ofal ei eglwysi er mwyn gosod yr eglwys yn Aberystwyth ar ei thraed. Aeth yn gyfrifol am gasglu at godi capel Seion, Penmaesglas yn 1821. Agorwyd y capel yn 1823 ac yno y bu'r eglwys yn cyfarfod hyd nes y symudodd i Baker Street yn 1878. Teithiodd yn helaeth yng Nghymru a Lloegr i gasglu'r arian. Yn 1830 daeth ei fab, Eliacim, i'w gynorthwyo, ond yn 1834 symudodd i ofalu am eglwys yn Dursley. Ymddeolodd yntau yn 1835, ond bu fyw hyd 18 Ionawr 1844. Claddwyd ef ym mynwent S.Mihangel, Aberystwyth, ac ar ei feddfaen ceir pennill o farwnad gan fardd lleol a'i galwai'n Bunyan Cymru.

Cyhoeddodd Shadrach nifer o lyfrau poblogaidd o natur bregethyddol yn dwyn teitlau maith a hynod: (1) Allwedd Myfyrdod, 1801; (2) Breudduyd … un o drigolion Bethsemes, 1802/3?; (3) Drws i'r Meddwl Segur, 1804; (4) A Looking-glass, 1807; (5) Perlau Calfaria, 1808; (6) Clorianau Aur, 1809; (7) Blodau Paradwys, 1810; (8) Trysorau'r Groes, 1811; (9) Goleuni Caersalem, 1812; (10) Rhosyn Saron, 1816; (11) Udgorn y Jubili, 1819; (12) Cerbyd Aur, 1820; (13) Tabernacl Newydd, 1821; (14) Myfyrdodau Ysbrydol, 1821; (15) Glyn Angeu, 1821?; (16) Dyfroedd Siloam, 1827; (17) Gwallt Sampson, 1831; (18) Cangen o rawn camphir, 1833; (19) Myrr Dyferol, 1833; (20) Meditations on Jewels, 1833; (21) Tlysau Aur, 1837; (22) Blodau y Ffigysbren, 1837; (23) Cerbyd o Goed Libanus, 1840. Cyfieithiwyd rhif 4 yn Saesneg gan Edward S. Byam a'i gyhoeddi fel The Backslider's Mirror (London, 1845).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.