SPARK, THOMAS (1655 - 1692), clerigwr ac ysgolor clasurol

Enw: Thomas Spark
Dyddiad geni: 1655
Dyddiad marw: 1692
Rhiant: Archibald Spark
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolor clasurol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John James Jones

mab Archibald Spark, gweinidog Llaneurgain, Sir y Fflint. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster, ac yn 1672 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Christ Church, Rhydychen. Yno graddiodd yn B.A. 1676, M.A. 1679, B.D. 1687/8, a D.D. 1691. Yn 1682 dewiswyd ef i draddodi'r ddarlith Bodley gyntaf. Gwnaed ef yn gaplan i Syr George Jeffreys. Yn 1686 cafodd brebend Offley yn eglwys gadeiriol Lichfield. Gwnaed ef yn rheithor Ewhurst, Surrey, 1687/8, a Hog's Norton, Leicestershire. Yn 1688 cafodd brebend yn eglwys gadeiriol Rochester. Yn ychwanegol at y penillion Lladin a gyfrannodd i Musae Anglicanae ac i'r gyfrol o benillion er coffadwriaeth am Siarl II, cyhoeddodd Spark argraffiadau o Historia Nova Zosimus, 1679, ac o weithiau Lactantius, 1684. Bu farw 7 Medi 1692.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.