Nid oes fawr a wnelo ei yrfa, hynod iawn, â Chymru - gŵyr pawb iddo yn 1871 (ac yntau ar y pryd yng ngwasanaeth y New York Herald) ddod o hyd i David Livingstone yn Ujiji; iddo yn 1874 groesi canolbarth Affrica o ddwyrain i orllewin, a bwrw seiliau'r dominiwn Belgaidd ar lannau Congo; ac iddo drachefn (1887), wrth chwilio am Emin Pasha, ddarganfod tiroedd na wyddid amdanynt ond a ddaeth yn ddiweddarach yn 'British East Africa.' Adroddodd ef ei hun y teithiau hyn yn ei How I found Livingstone , 1872; Through the Dark Continent, 1878; ac In Darkest Africa, 1890; My early travels and adventures in America and Asia , 1895. Sgrifennodd hefyd Autobiography, a gyhoeddwyd gan ei weddw yn 1909. Y mae hefyd ysgrif lawn arno (gan Sidney J. Low) yn yr ail atodiad i'r D.N.B., ac amryw gofiannau eraill, gan gynnwys Hanes Bywyd Henry M. Stanley (Dinbych, 1890), a llyfr nid cwbl ddibynnol gan gâr iddo, Cadwalader Rowlands, Henry M. Stanley … his Life from … 1841 to … 1871 (Llundain, 1872).
Bu ei dras a'i yrfa fore'n bwnc dadlau am amser maith - gellir priodoli llawer o hynny i'w hwyrfrydigrwydd ef ei hunan i ddadlennu'r ffeithiau. Haerai rhai yn America mai ym Missouri y ganed ef. Cyhoeddwyd yn 1875 The Birth, Boyhood, and Younger Days of Henry M. Stanley, a South Wales Hero, gan Thomas George, a'i galwai ei hunan 'an old playmate'; dywed hwn mai Howell Jones oedd gwir enw Stanley, mai mab oedd i Josuah Jones, llyfr-rwymwr yng Nghenarth, ac mai yn Ysgar 'ym mhlwy Betws' (Betws Iwan?) y ganwyd ef. Ar y llaw arall, hawliai Cadwalader Rowlands a'r cofiannydd Cymraeg ef i Ogledd Cymru. Chwalwyd y dadleuon hyn pan ymddangosodd yr hunangofiant, a sgrifennwyd yn hwyrddydd ei fywyd, ac yntau (chwedl ei ragymadrodd) bellach wedi ymado â balchder a swildod. Manyla Stanley yn hwn ar hanes 15 mlynedd cyntaf ei fywyd. Fe'i ganwyd 29 Mehefin 1841 mewn bwthyn o fewn terfynau castell Dinbych, yn fab i John Rowlands a'i wraig Elizabeth (Parry), merch i gigydd yn y dref), bedyddiwyd ef yn Nhremeirchion meddai'r D.N.B., ond yn eglwys Ilar yn Ninbych meddai Cadwalader Rowlands. Bu farw ei dad yn 1843, a gwrthododd ei daid, John Rowlands, o'r Llys, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, ofalu amdano, felly tylwyth ei fam a'i magodd. Aeth hithau i Lundain (ac ailbriododd), a thua'r 6 oed cymerwyd ef i dloty Llanelwy. Cafodd galedi mawr yno, a thua'r 15 oed (ar ôl rhoi curfa i'r meistr) dihangodd, a bwriodd beth amser yn Brynffordd, yn is-athro mewn ysgol dan gefnder iddo; wedyn aeth i weithio ar fferm modryb iddo yn Nhremeirchion. Ar ôl mynd i Lerpwl, cafodd le fel 'cabin-boy' ar long i New Orleans, lle y mabwysiadwyd ef gan ŵr o'r enw Henry Stanley, y cymerth ei enw. Bu'n ymdreiglo o swydd i swydd - yn filwr yn Rhyfel Cartrefol U.D.A., yn forwr yn llynges U.D.A., etc. Newyddiadurwr ('gohebydd arbennig') oedd pan ddaeth y trobwynt yn ei fywyd.
Wedi tyfu i'w enwogrwydd y priododd, 12 Gorffennaf 1890, yn abaty Westminster, â Dorothy Tennant o Cadoxton Lodge, Castell Nedd. Bu am gyfnod (1895-1900) yn aelod seneddol dros North Lambeth, ond nid ymddiddorai mewn gwleidyddiaeth. Yn hwyr iawn o ddydd (1899) urddwyd ef yn farchog - oeraidd oedd teimladau rhai cylchoedd tuag ato (gweler y sylwadau ar ddiwedd yr ysgrif yn y D.N.B. am rai o'r rhesymau). Bu farw 10 Mai 1904; dymunai gael ei gladdu yn ymyl Livingstone yn abaty Westminster, eithr gomeddwyd hynny, ac yn Pirbright, gerllaw ei gartref, y claddwyd ef.
Y mae'n eglur oddiwrth ei hunangofiant mai ef yw'r John, mab anghyfreithlon John Rowland, Llys Llanrhaeadr, ffermwr, ac Elisabeth Parry o'r Castell a fedyddiwyd ar 19 Chwefror 1841, yn ôl cofrestr plwy Dinbych.
Ymddengys felly mai 28 Ionawr 1841 yw dyddiad mwyaf tebygol ei eni.
Mae ymchwil newydd wedi datgelu llawer ar gymhlethdod personoliaeth Stanley ac ar rai manylion bywgraffyddol. Gweler yn fwyaf arbennig Emyr Wyn Jones , Sir Henry M. Stanley: the enigma (1989), Henry M. Stanley: pentewyn tân a'i gymhlethdod phaetonaidd (1992), Flintshire Historical Society journal, 33 (ar James Francis yr ysgolfeistr), Traethodydd, 1991 (ar Cadwalader Rowlands), Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 28 (ar ei dad tybiedig); Richard Hall, Stanley: an adventurer explored (1974).
Ffantasïwr a chelwyddgi patholegol oedd Stanley ac ni ellir dibynnu ar nifer o “ffeithiau” yn ei hunan-gofiant. Cadarnheir 28 Ionawr 1841 yn ddyddiad ei eni ond nid John Rowlands (ieu.), Y Llys, a'i 'wraig' Elizabeth Parry oedd ei rieni. Dadleuir yn NLWJ 28 mai James Vaughan Horne, cyfreithiwr yn Nynbych, oedd y tad. Nid oes sail i'r stori am ei wrthodiad gan ei 'dad', John Rolant, nac ychwaith am hanes y caledi a'r creulondeb yn y Wyrcws, y gosfa a roes i'w athro cas, a'r ffoi, gyda chyfaill, yn union wedyn. Bu farw John Rowlands 24 Mai 1854 (nid 1843), yn 39 mlwydd oed. Nid oedd y bywgraffydd Cadwalader Rowlands yn 'gâr' i Stanley ac y mae i'w fywgraffiad fwy o werth nag a honnwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.