Ganwyd Emyr Wyn Jones ar 23 Mai 1907 yn y Waunfawr, Sir Gaernarfon, yn ail fab i'r Parch. James Jones (1858-1926, gweinidog Methodistaidd, a'i wraig Ellen (g. Jones). Bu ei frawd James farw yn bedair ar hugain oed yn 1923. Cafodd Emyr ei addysg yn ysgol gynradd y Waunfawr ac Ysgol Sir Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, a dilynodd gamre ei frawd h?n i Brifysgol Lerpwl, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Meddygaeth a Llawfeddygaeth yn 1928.
Ar ôl ennill ei MD yn 1930 ac MRCP yn 1933, ymunodd â staff ymgynghorol ysbytai hyfforddi Lerpwl yn 1935. Yn 1938, fe'i penodwyd i Ysbyty Brenhinol Lerpwl lle bu'n bennaeth ar Adran y Galon o 1945 tan ei ymddeoliad yn 1972. Dysgodd feddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl hefyd, a bu'n Gyfarwyddwr Astudiaethau'r Galon yno o 1966. Am gyfnod hir cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu'n ymgynghorydd i dri ysbyty yng ngogledd Cymru, sef Bangor, Rhyl a Wrecsam. Roedd ganddo ar hyd y blynyddoedd glinig yn Rodney Street a dylifai Cymry yno am gyngor. Bu'n Is-gadeirydd Bwrdd Ysbytai Cymru (1968-1974) a mynnodd ef a'r Cadeirydd, Gwilym Prys-Davies, le dyladwy i'r Gymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd.
Yn 1936 priododd Enid Llewelyn Williams (1909-1967), merch Dr David Llewelyn Williams a chwaer i Alun Llywelyn-Williams. Ganwyd iddynt un ferch, Carys (g. 1937), ac un mab, Gareth Wyn (g. 1940). Oherwydd y bomio trwm ar Lerpwl yn ystod y rhyfel, symudodd y teulu i gartref rhieni'r fam yn Hen Golwyn cyn ymgartrefu yn Llety'r Eos ger Llansannan. Daeth y cartref hwnnw'n gyrchfan i feirdd a llenorion Cymraeg, cerddorion, heddychwyr a meddygon, a chyfleir ei naws ddiwylliedig mewn cerdd gan Alun Llywelyn-Williams, 'Taith i Lety'r Eos'. Trwy flynyddoedd y rhyfel daliodd Emyr i gyflawni ei waith fel ymgynghorydd yn Lerpwl. Ar ddychweliad y teulu i Lerpwl yn 1948 ymdaflodd Enid Wyn Jones i fywyd crefyddol a diwylliant Cymraeg dinas Lerpwl, gan gynnwys pregethu yng nghapeli Cymraeg bychain Sir Gaerhirfryn, a chwaraeodd Emyr ran flaenllaw mewn cymdeithasau megis Undeb Corawl Cymraeg Lerpwl, y bu'n llywydd arno 1971-1987. Roedd y ddau wedi ymserchu yn hanes a gweithgareddau'r Crynwyr.
Bu Enid Wyn Jones farw ar 15 Medi 1967 mewn awyren uwchben Bangkok ar ei ffordd adref o gynrychioli Cymru mewn cynhadledd fyd-eang yr YWCA ym Melbourne, Awstralia, a'i phriod wrth ei hochr. Lluniodd Emyr ysgrif deimladwy, 'Teyrnged Serch ', i'r Y Traethodydd yn 1969 a golygodd In Memoriam (1968) a Cyfaredd Cof (1970) er cof amdani. Yn 1973 priododd Megan, gweddw'r Athro Thomas Jones Pierce. Symudodd y ddau i ddechrau i ddinas Manceinion lle roedd hi'n Warden Neuadd Ellis Llwyd Jones, gan dreulio gwyliau yn ei chartref yn y Rhiw, ger Aberdaron, ac ymgartrefu yno'n barhaol yn 1988.
Cyfrannodd Emyr Wyn Jones yn helaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol. Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn 1952 dan yr enw 'Emyr Feddyg', ac yn 1967 fe'i hetholwyd yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd y Beirdd, swydd a gyflawnodd tan 1987 gan wasanaethu saith Archdderwydd. Etholwyd ef yn Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod o 1973 hyd 1976, ac fe'i gwnaed yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol o 1983 i 1986. Yna, yn 1987 fe'i gwnaed yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ôl ymddeol daeth yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg ar ystod eang o bynciau hanesyddol. Roedd yn ymchwilydd dygn a gwelir ei waith yn y Bywgraffiadur Cymreig a nifer o gylchgronau. Ei brif ddiddordebau oedd Cymry Lerpwl, y Crynwyr, Harri Tudur a Brwydr Bosworth, a Henry Morton Stanley. Dangosodd yn y gyfrol Henry Stanley: Pentewyn Tân a'i Gymhlethdod Phaetonaidd (1992) fod Stanley yn gelwyddgi o'r radd flaenaf. Yn ei faes ei hun cyhoeddodd sawl casgliad o ysgrifau sy'n adlewyrchu ei ddiddordeb mewn meddygaeth draddodiadol: Ar Ffiniau Meddygaeth (1971), Ysgubau'r Meddyg (1973), Bysedd Cochion ac Ysgrifau Eraill (1977), a Cyndyn Ddorau (1978).
Derbyniodd Emyr Wyn Jones OBE yn 1971. Yn 1987 cyflwynwyd gradd er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i feddygaeth a diwylliant, ac yn 1997 derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r Academi Gymreig. Gwasanaethodd ar nifer o gyrff cyhoeddus dros y blynyddoedd, gan gynnwys Llys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llys Prifysgol Cymru, Cyngor Coleg Meddygol Caerdydd, Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych a Chymdeithas y Cymmrodorion.
Bu Emyr Wyn Jones farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 14 Ionawr 1999. Trefnodd Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi Ŵyl ym mis Tachwedd 2022 i gofio Enid ac Emyr Wyn Jones, pryd y cyflwynwyd darlithiau gan ei fab yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones, Bangor, a'i ŵyr yr Athro Richard Wyn Jones, Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-04
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.