LLYWELYN-WILLIAMS, ALUN (ALUN RHUN LLEWELYN WILLIAMS), (1913 - 1988), bardd a beirniad llenyddol

Enw: Alun Llywelyn-williams
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 1988
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a beirniad llenyddol
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gerwyn Wiliams

Ganwyd Alun Llywelyn-Williams ar 27 Awst 1913 yng Nghaerdydd, a'i fagu yn 39 Ffordd Penylan, Y Rhath, a 33 Ffordd Ninian, Parc y Rhath lle y symudodd ei deulu i fyw pan oedd yn 18 mis oed. Ef oedd yr ieuengaf o dri phlentyn Dr David Llewelyn Williams (1870-1949), Swyddog Meddygol Iechyd Cymru, a hanai o Fwlchgwyn, Caerhun, Talybont, Dyffryn Conwy, a'i briod Margaret Ann Price (1875-1948) o'r Rhyl. Chwaer iddo oedd Enid Wyn Jones.

Yn anarferol ar y pryd o gymharu â'i gyfoeswyr llenyddol Cymraeg, fe'i magwyd ar aelwyd ddosbarth canol broffesiynol yng Nghaerdydd. Er mai Saesneg oedd y prif gyfrwng, ni olygai hynny mai aelwyd Seisnigaidd mohoni: dywed fod ganddo 'rith gof amdanaf yn hogyn bach yn chwarae ar fy mhen fy hun yn Gymraeg; ond rhaid bod perygl yn gynnar iawn i'r Saesneg gymryd y lle blaenaf, oherwydd gallaf glywed llais fy nain yn fy nwrdio, ac yn annog arnaf y pwysigrwydd o fedru dwy iaith, "am fod dwy ffenestr ar y byd yn well nag un", meddai hi' ('Theresa'). Dywedodd mai 'modryb' o'r enw Rita Gould 'a'm harweiniodd gyntaf at deyrnas llenyddiaeth' ('Theresa') a'i gyflwyno, drwy gyfieithiad Saesneg Charlotte Guest, i'r Mabinogion. Ond dan bwysau ei dad, a deimlai'n angerddol am Gymru a'r Gymraeg, yr astudiodd Gymraeg yn bwnc yn y chweched dosbarth. Dan gyfarwyddyd R. T. Jenkins, yr athro hanes yn Cardiff High School for Boys lle bu'n ddisgybl rhwng 1925 a 1931, yr astudiodd yr iaith a'i llenyddiaeth, ac yn 1977, ad-dalodd ei ddyled iddo pan gyhoeddwyd ei gyflwyniad i fywyd a gwaith ei hen athro yn y gyfres 'Writers of Wales'. Bu'r cwrs Cymraeg yn drobwynt yn ei hanes: 'Cefais fy nghyflwyno'n gwbl annisgwyl i gorff o lenyddiaeth y gallwn weld fod ei bethau gorau yn deilwng i'w gosod ochr yn ochr â rhai o brif greadigaethau'r dychymyg mewn llenyddiaethau eraill... O'r awr honno ymlaen, 'roedd yr iaith Gymraeg wedi gosod ei chrafangau ynof' (Gwanwyn yn y Ddinas). Aeth unrhyw fwriad i ymgeisio am le yng Nghaergrawnt neu Rydychen i'r gwellt, newidiwyd cwrs ei yrfa ac achub ei gyfraniad ar gyfer y Gymraeg.

Rhwng 1931 a 1935 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Deheudir Prifysgol Cymru a Mynwy lle daeth dan ddylanwad W. J. Gruffydd - gwr y dywedir iddo'i eilunaddoli ar un adeg - a graddio mewn Cymraeg a Hanes yn 1934; ef a baratodd yr ysgrif amdano yn Gwyr Llên (1948) a olygwyd gan Aneirin Talfan Davies. Dechreuodd ddod i'r amlwg yn llenyddol, fel bardd, beirniad a golygydd, at ganol y 1930au ac fel ei fentor, ni fu arno ofn torri ei gwys ei hun na lleisio'i farn. Mentrodd feirniadu'r hyn a gyfrifai'n bwyslais gorwledig a chanoloesol a nodweddai lenyddiaeth Gymraeg ar y pryd, ac mewn ysgrif flaengar fel 'Barddoniaeth mewn Oes Ddiwydiannol' (1935), cafodd lwyfan gan Gruffydd ar dudalennau'r Llenor. Ond ni ddigonwyd ef gan y cylchgrawn hwnnw a mynnai gan lenyddiaeth Gymraeg gyfoesedd a pherthnasedd, felly ar dudalennau cylchgrawn chwarterol Tir Newydd, a sefydlodd yn 1935 gydag un o'i gyd-fyfyrwyr yng Nghaerdydd, D. Llewelyn Walters, y gwelwyd y prif fynegiant o'i weledigaeth. Ar fodel Cambridge Left a New Verse yn Saesneg, coleddai'r cyfnodolyn hwn safbwynt gwleidyddol adain chwith a chydymdeimlo â'r dosbarth gweithiol: mentrai feirniadu Plaid Cymru dan arweinyddiaeth Saunders Lewis a rhoi sylw arloesol a chynhwysol i bynciau fel pensaerniaeth, cerddoriaeth, swrealaeth, sinema, radio a theledu. Dyfodiad yr Ail Ryfel Byd yn 1939 a phrinder papur a ddaeth â Tir Newydd i ben ar ôl 17 rhifyn, ond deil o hyd yn un o'r cyfnodolion byrhoedlog mwyaf cyrhaeddbell ei arwyddocâd.

Yn 1944 y cyhoeddodd y cyntaf o dri chasgliad o gerddi sef y gyfrol fer Cerddi 1934-1942 sy'n cynnwys cerddi serch a rhai sy'n cofnodi nodweddion ac awyrgylch y dyddiau llawn pryder, cyfnod y 'gwae a'r gofid' ('Yma'n y Meysydd Tawel', Cerddi 1934-1942), cyn dyfodiad y rhyfel a gorymdaith Ffasgiaeth a Natsiaeth. Cynrychiolai'r cariad rhyngddo ag Alice Phoebe Stocker (1911-2005), nyrs o'r Porth, Y Rhondda, ddelfryd o gydymddiriedaeth a grym a arwyddai wrthbwynt i'r pwerau dinistriol a fygythiai ddyfodol y byd ar y pryd: yn ei eiriau ef ymhen blynyddoedd, 'Cyfannu'r berthynas rhwng personau â'i gilydd yw dechrau pob daioni i mi, a'r unig sail ymarferol i ddiwygio cymdeithas a gwareiddiad yn lân' (Mabon, 1971). Y gerdd retrosbectif 'Dadrith Doe neu Cofio'r Tridegau' sy'n crynhoi'r hyn a nodweddai ei agwedd fel bardd yn y cyfnod cynnar: 'Yn y dyddiau dolurus hynny, gwyddem pwy | oedd y gelyn... | hawdd oedd adnabod awduron ein cancr a'n clwy' (Pont y Caniedydd). Dan ddylanwad beirdd adain chwith Saesneg fel W. H. Auden a Stephen Spender, ac yn absenoldeb rhai Cymraeg o'r un cyfnod y gallai uniaethu â nhw, awen ymrwymedig wleidyddol oedd ei eiddo ef. Ond profodd cyfnod y rhyfel yn drobwynt personol a chreadigol iddo a fwriodd ei hyder a thanseilio unrhyw atebion 'rhwydd' a goleddai gynt.

Cyn hynny, bu am gyfnod byr iawn yn 1936 yn Llyfrgellydd Cynorthwyol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, cyn dychwelyd i ddinas ei febyd yn Gyhoeddwr gyda'r BBC rhwng 1936 a 1939, ac yna, yng nghyfnod y Rhyfel Ffug neu'r Phoney War rhwng 1939 a 1940, bu'n gweithio gydag Uned Newyddion Cymraeg y BBC yn Llundain. Rhan o'r her greadigol a wynebai yn y gwaith hwnnw oedd bathu geiriau Cymraeg ar gyfer newyddbethau'r oes a thrwy hynny chwarae rhan ymarferol yn moderneiddio'r iaith. Yn ystod ei gyfnod gyda'r BBC bu'n cydweithio gydag arloeswyr darlledu Cymreig fel Sam Jones, Geraint Dyfnallt Owen, Dafydd Gruffydd (mab i'w gyn-ddarlithydd Cymraeg, W. J. Gruffydd), Elwyn Evans (a ysgrifennodd gyfrol amdano yn y gyfres 'Writers of Wales' yn 1991), a Wynford Vaughan Thomas, un o'i gyfeillion oes. Rhwng 1940 a 1945, teimlodd '[r]eidrwydd moesol' (Gwanwyn yn y Ddinas) i weithredu yn erbyn Natsiaeth a gwirfoddoli i wasanaethu fel swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y gatrawd 'lenyddol' yr ymaelododd Hedd Wyn, Robert Graves, Llywelyn Wyn Griffith, David Jones a Siegfried Sassoon â hi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ôl ymaelodi â'r fyddin yn Nhachwedd 1940, treuliodd y chwe mis nesaf yn hyfforddi yn Wrecsam a rhai misoedd wedyn yng Ngholeg Brenhinol Sandhurst, yna i Sussex a Weymouth yn swydd Dorset cyn ei drosglwyddo'n lefftenant i Aberhonddu yng Ngorffennaf 1942 lle bu'n hyfforddi glasfilwyr. Dyma ran o ddaear Cymru a anfarwolai ymhen blynyddoedd yng ngherdd deitl ei ail gyfrol o gerddi, Pont y Caniedydd (1957), a Crwydro Brycheiniog (1964), yr ail o ddwy gyfrol daith a ysgrifennodd: Crwydro Arfon (1959), i'w sir fabwysiedig ar ôl y rhyfel, oedd y llall. Y cyfnod milwrol hwn ar dir Prydain a gofnododd yn ei nofel fywgraffyddol fer anghyhoeddedig, 'Gwys i'r Gad', ond yna, yng Ngorffennaf 1944, gwirfoddolodd i wasanaethu dramor a'i anfon i'r Almaen a Gwlad Belg. Gadawodd y rhyfel ei ôl arno'n gorfforol, yn emosiynol ac yn greadigol. Fe'i clwyfwyd mewn damwain ar 1 Mawrth 1945 ac anafu ei goes, a byddai dwyn i gof y digwyddiad hwnnw pan laddwyd ei yrrwr yn destun dychryn iddo weddill ei oes. Bu ond y dim i'r rhyfel ddifetha'i greadigrwydd yn llwyr: o weld y modd y camdriniwyd iaith a'i manipwleiddio i wasanaethu ideolegau gwrthun yn ystod y rhyfel, roedd arno ofn ei defnyddio i ddibenion gwleidyddol fel y gwnaeth mewn cerddi cynnar. Ond rhwng 1946 a 1956, llwyddodd i'w ailddyfeisio ei hun yn greadigol: rhoddir mynegiant i'w safbwynt diwygiedig tuag at farddoni yng ngeiriau clo 'Bardd y Byd Sydd Ohoni': 'Fe bery bywyd, a chan brydydd fe fyn Duw | fawl i ddirgelwch a rhyfeddod byw' (Pont y Caniedydd). O ganlyniad, rhoddodd fynegiant barddol i'w brofiad o wrthdaro mewn casgliad o gerddi sy'n ymffurfio'n fyfyrdod dwys a gwâr ar ryfel modern.

Y cerddi hyn a'i sefydla'n ddiamheuaeth yn brif fardd Cymraeg yr Ail Ryfel Byd. Yn y gerdd naratif hir 'Ar Ymweliad', darlunnir swyddog Prydeinig yn dod o hyd i loches ynghanol yr eira mewn 'ty clwyfus' yn Ffrainc: llethwyd byd y cwpl a'i piau gan golled a galar, ac er y pellter diwylliannol rhyngddynt, daw'r gerdd i ben gyda mynegiant nerthol o un o'i brif themâu o'r cyfnod hwn sef cydnabyddiaeth o'r cyd-ddioddefaint sy'n nodweddu'r cyflwr dynol. Rhydd hefyd fynegiant i rym iachaol cerddoriaeth; yn wir, cyfrifai gerddoriaeth 'yn un o bleserau mwyaf bywyd ac un o'i gysuron pennaf' (Gwanwyn yn y Ddinas), a thestun balchder iddo o'r herwydd oedd y ffaith fod nifer o'i gerddi wedi eu gosod i gerddoriaeth, e.e. 'Pan Oeddwn Fachgen' (1971) gan William Mathias, ac 'Gwyn Fyd y Griafolen' (2001) gan Dilys Elwyn Edwards ar ôl ei farw. Un o uchabwyntiau creadigol y cyfnod wedi'r rhyfel yw'r drioleg o gerddi 'Ym Merlin - Awst 1945'. Yn hanesyddol, mae'r cerddi'n bwysig am eu bod yn ffrwyth tystiolaeth llygad-dyst Cymraeg a welodd o lygad y ffynnon wareiddiad nerthol Berlin yn garnedd ar diwedd y rhyfel. Yn greadigol, a chan blethu darluniau o gyflwr fffisegol prifddinas yr Almaen ar y pryd gyda chyfeiriadau at ein barddoniaeth fore, cylch englynol Heledd a chwedlau rhyddiaith y Mabinogi, llwyddir i osod profiadau dirdynnol y rhyfel mewn persbectif ac i rwystro'r amgylchiadau dinistriol rhag gomedd i'r ddynoliaeth a oroesodd y gyflafan obaith ar gyfer dyfodol.

Ar ôl cael ei ddadfyddino yn 1946, dychwelodd i'r BBC fel Trefnydd Sgyrsiau Radio ym Mangor tan 1948, cyn ei benodi'n Gyfarwyddwr Adran Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, swydd y bu ynddi weddill ei yrfa broffesiynol; dyfarnwyd iddo Gadair Bersonol yn 1975, ac ar ei ymddeoliad yn 1979, daeth yn Athro Emeritws. Cynrychiolai ei ddyddiau ym Mangor ar ôl y rhyfel gyfnod o sefydlogrwydd yn ei hanes. Roedd wedi priodi ag Alis - y ffurf ddiwygedig ar ei henw a fabwysiadodd a hithau wedi dysgu'r Gymraeg - ar 10 Medi 1938 ac ymsefydlu yn Rhiwbeina; nodweddid wyth mlynedd cyntaf eu bywyd priodasol gan gyfres o wahaniadau fel yn achos cannoedd ar filoedd o gyplau tebyg ar y pryd. Ym Mangor, magodd y cwpl ifanc a adunwyd ar ôl y rhyfel eu dwy ferch sef Eryl a aned ar 13 Tachwedd 1940 yn Hen Golwyn lle y cartrefai ei rieni erbyn hynny (amdani hi y canodd 'Y Wers ar y Piano' yn Pont y Caniedydd) a Luned a aned yng Nghaerdydd ar 7 Medi 1942. Cartrefodd y teulu mewn tri thy ym Mangor yn eu tro: Menai Fron, Bangor Uchaf (1946-49); Pen y Lan, Ffordd Belmont (1949-79) sef y prif gartref teuluol; ac ar ei ymddeoliad, Cwm Bychan, 11 Ffordd Ffriddoedd (1979-88).

Gwelodd Pont y Caniedydd olau dydd yn 1956, annus mirabilis i farddoniaeth Gymraeg fodern pan ystyrir mai yn yr un flwyddyn hefyd y cyhoeddwyd Dail Pren Waldo Williams yn ogystal â Cerddi Euros Bowen. Gyda sicrwydd rhythmig ei linellau a'i sylw disgybledig i grefft, fe'i cyfrifir yn un o feistri pennaf y vers libre yn Gymraeg. Ond ni fu erioed yn fardd cynhyrchiol - yn wir, cyfaddefodd unwaith mai proses lafurus na roddai iddo fawr o bleser oedd barddoni - a chyhoeddodd ddetholiad o'i gerddi, cyfanswm o gwta 90 ohonynt, yn y gyfrol Y Golau yn y Gwyll yn 1979. Ac yntau wedi bod mor effro yn ?r ifanc i'r tyndra rhwng y Gymru wledig a'r un ddinesig, mae'n arwyddocaol ei bod hi'n cloi gyda cherdd sydd fel petai'n cymodi rhwng ei wahanol brofiadau o Gymreictod: yn 'Tynyfedw' mae'n cofnodi fel y prynwyd y ty fferm ger Llanuwchllyn yr ymwelodd ag ef ar daith gerdded yn ei ieuenctid gan aelodau o'i deulu sef Luned a'i gwr, Dafydd Meredith. Yn 1975 cyhoeddodd fath prin o gyfrol Gymraeg sef hunangofiant wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Gwanwyn yn y Ddinas, sy'n llawn ymdeimlad o falchder dinesig ac sy'n deyrnged gloyw i'w gynefin bore oes: "Rown-i'n falch o ddinas Caerdydd. Credwn mai hi oedd y ddinas brydferthaf a mwyaf diddorol yn y byd, a breuddwydiwn am ffyrdd i'w gwella a'i harddu fwyfwy a dyrchafu ei bri' (Gwanwyn yn y Ddinas). Ei brif amcan wrth ysgrifennu ei 'ddarn o hunangofiant' - daeth i ben ac yntau'n 27 oed ac newydd ymrestru yn y fyddin - oedd 'esbonio iddo'i hunan sut y bu iddo dyfu'n annisgwyl yn fardd a fynnai ganu yn Gymraeg'.

Casglwyd ei brif ysgrifau beirniadol ynghyd yn y gyfrol Nes Na'r Hanesydd (1968) ac Ambell Sylw (1988) a ymddangosodd ym mis Rhagfyr ar ôl ei farwolaeth gyda chymorth ei gyfaill a'i gydweithiwr gynt, Dyfnallt Morgan. Ysgrif olaf y detholiad hwnnw yw 'Y Llenor a'i Gymdeithas', Darlith Radio'r BBC yn 1966 sy'n gri angerddol o blaid pwysigrwydd swyddogaeth y llenor o fewn cymdeithas Gymreig ddwyieithog, gan gynnwys gwaith Emyr Humphreys ac R. S. Thomas. Yn wir, er dyddiau Tir Newydd, bu'n lladmerydd dros ddwy lenyddiaeth Cymru. Ond ei gyfraniad ysgolhegaidd mwyaf sylweddol oedd Y Nos, Y Niwl a'r Ynys: Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (1960), addasiad rhannol o draethawd MA a gwblhaodd yn 1957 dan gyfarwyddyd G. J. Williams yn ei hen adran yng Nghaerdydd.

Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru ac mewn amryw gylchoedd diwylliannol, e.e. fel aelod o Bwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau (1958-67); aelod o'r Academi Gymreig (1959-88) a'i Chadeirydd (1979-82); aelod o Fwrdd Cwmni Theatr Cymru (1967-81); aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, ei Chadeirydd (1977-1982) a'i His-lywydd; aelod o Bwyllgor Cymreig yr Awdurdod Darlledu Annibynnol (c. 1966/67); un o sylfaenwyr HTV a Chyfarwyddwr ar Fwrdd HTV Cyf. (c. 1966/67-83/84); aelod o Fwrdd y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg; ac Is-lywydd Coleg Harlech.

Fe'i hanrhydeddwyd gan ei alma mater, Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd, a'i hurddodd yn Gymrawd; derbyniodd D.Litt. gan Brifysgol Cymru a Phrif Wobr Cyngor Celfyddydau Cymru am Farddoniaeth am ei gyfrol Y Golau yn y Gwyll yn 1980. Cyfieithwyd ei gerddi i amryw ieithoedd sef Almaeneg, Daeneg, Ffrangeg, Saesneg, Tseinieg a Siapaneeg. Cyhoeddwyd The Light in the Gloom, cyfieithiad Joseph P. Clancy o Y Golau yn y Gwyll, yn 1988, a chyfieithwyd rhan o Gwanwyn yn y Ddinas gan Luned Meredith ar gyfer A Cardiff Anthology a olygwyd gan Meic Stephens yn 1987. Gellir clywed recordiad o'i lais yn darllen dwy o'i gerddi, 'Ar Ymweliad' a 'Gwyn Fyd y Griafolen', ar y CD Lleisiau Beirdd Cymru a ryddhawyd gan gwmni Sain yn 2014.

Ac yntau'n dioddef cynddrwg o boenau corfforol a dim ond yn llwyddo i orffwys gyda chymorth tabledi cysgu cryf, methodd â chyhoeddi nemor ddim yn ystod naw mlynedd olaf ei oes. Bu Alun Llywelyn-Williams farw ar 9 Mai 1988 o drawiad ar y galon a chladdwyd ei lwch ym mynwent dinas Bangor. Trosglwyddyd ei bapurau gan ei deulu i Archifdy Prifysgol Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-08-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.