JONES, ENID WYN (1909 - 1967), gwraig nodedig am ei gweithgarwch ym mywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru a Lloegr

Enw: Enid Wyn Jones
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1967
Priod: Emyr Wyn Jones
Plentyn: Carys Jones
Plentyn: Gareth Wyn Jones
Rhiant: David Llewelyn Williams
Rhiant: Margaret Ann Williams (née Price)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwraig nodedig am ei gweithgarwch ym mywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru a Lloegr
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Dyngarwch; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Crefydd
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd 17 Ionawr 1909 yn Wrecsam, Sir Ddinbych, yn ferch i'r Dr. David Llewelyn Williams a Margaret Williams. Brawd iddi oedd y bardd Alun Llywelyn-Williams. Symudodd y teulu i Gaerdydd ychydig cyn Rhyfel Byd I, ond yn ystod y rhyfel fe'i magwyd hi yn y Rhyl. Addysgwyd hi yn y Welsh Girls' School, Ashford o 1919 i 1926, ac yna dilynodd gwrs llawn o hyfforddiant fel gweinyddes yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Ar 9 Medi 1936 priododd ag Emyr Wyn Jones , brodor o'r Waunfawr, Caernarfon, a ffysigwr yn Lerpwl, a bu iddynt ddau o blant. Ymgarterfai yn Llety'r Eos, Llansannan, gan dreulio cyfran o'i hamser yn Lerpwl. Yn rhinwedd ei gwahanol swyddi teithiai'n helaeth ledled Cymru a Lloegr.

Gyda gwaith y Y.W.C.A. hi oedd llywydd Cyngor Cymru ac is-lywydd Cyngor Prydain o 1959 hyd 1967, ac yr oedd yn aelod o gyngor byd y mudiad gan gynrychioli Cymru mewn cynadleddau tramor. Hi oedd llywydd Cyngor Cenedlaethol Merched Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru yn 1958-59, a bu'n llywydd Adran y Merched o Undeb Cymru Fydd yn 1966-67. Yr oedd yn ynad heddwch yn sir Ddinbych o 1955 hyd 1967. Gwnaeth waith enfawr hefyd yn y maes meddygol fel is-gadeirydd Pwyllgor Gweinyddesau Bwrdd Ysbytai Cymru; fel aelod o Fwrdd Rheolaeth Ysbytai Clwyd a Dyfrdwy; o Bwyllgor Gweinyddol Meddygon Dinbych a Fflint ac o Bwyllgor Canolog Cronfa Elusennol Frenhinol y Meddygon. Bu'n annerch ar bynciau crefyddol a chymdeithasol ac ar heddychaeth ar hyd a lled Prydain. Yr oedd yn aelod gyda'r Crynwyr yn ogystal â'r Presbyteriaid Cymreig. Bu hefyd yn gweithio ar Bwyllgor Crefyddol y B.B.C.

Bu farw 15 Medi 1967 yn ddisymwth iawn mewn awyren wrth ddychwelyd i Gymru o Gynhadledd Byd y Y.W.C.A. ym Melbourne, Awstralia, ac fe'i claddwyd yn Llansannan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.