Ganed William Mathias ar 1 Tachwedd 1934 yn Hendy-gwyn-ar-Daf. Roedd ei dad, James Hughes Mathias (1893-1969), yn athro hanes yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn a'i fam Marian (ganwyd Evans, 1896-1980) yn organyddes ac yn bianyddes. Yn chwech oed dechreuodd gael gwersi piano gan David Lloyd Phillips, Llanfyrnach, ac iddo ef y cyflwynodd Mathias ei sonata i'r piano, op.23. Yn 1952 aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i astudio wrth draed Ian Parrott. Graddiodd yn 1956 a chafodd ysgoloriaeth agored i'r Academi Gerdd Frenhinol i astudio cyfansoddi gyda Lennox Berkeley a phiano gyda Peter Katin. Penodwyd ef yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor yn 1959, a bu yno nes symud i Brifysgol Caeredin yn 1968. Dychwelodd i Gymru yn 1969 wedi marwolaeth ei dad, ac yn 1970 fe'i penodwyd yn Athro Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, swydd a ddaliodd tan ei ymddeoliad yn 1987. Etholwyd ef yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM) yn 1965 a derbyniodd radd D. Mus. (Cymru) yn 1966. Sefydlodd Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn Llanelwy yn 1972 a bu'n gyfarwyddwr cerdd iddi tan ei farw. Derbyniodd Wobr Gyfansoddi Cymdeithas Bax yn 1968 a bu'n llywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion, 1990-1.
Yr oedd William Mathias yn un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Cafodd lwyddiant cynnar gyda pherfformiad o'i Sonata i'r clarinet yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham yn 1957, a dwy flynedd yn ddiweddarch clywyd ei Berceuse i gerddorfa yn y Festival Hall yn Llundain. Yn ystod y 1960au datblygodd yn sylweddol fel cyfansoddwr a darganfod ei lais unigryw ei hun, gan gyfansoddi ym mhob ffurf ymron ac ysgrifennu gweithiau cysegredig a seciwlar. Llwyddodd i greu cerddoriaeth a oedd yn nodedig am ei rhithmau bywiog ac am ei hapêl barod i gynulleidfaoedd. Dywedwyd amdano ei fod wedi llwyddo i ddod â dylanwadau Ewropeaidd cyfoes i Gymru heb golli ei lais unigryw ei hun.
Ymhlith ei weithiau corawl mwyaf adnabyddus y mae St Teilo (1962), This World's Joie (1974), Lux Aeterna (1982) a World's Fire (1989). Cyfansoddodd un opera lawn, sef The Servants, i libretto gan yr awdur Iris Murdoch. Comisiynwyd ei anthem 'Let the people praise thee, O Lord' ar gyfer priodas Tywysog Cymru yn 1981. Yn ystod y 1970au lluniodd gyfres o weithiau i gerddorfa a alwodd yn 'dirluniau'r meddwl', sef Laudi (1973), Vistas (1975), Helios (1977) a Requiescat (1977). Cyfansoddodd dair simffoni, gan adael pedwaredd heb ei gorffen adeg ei farw.
Priododd ym Medi 1959 â (Margaret) Yvonne Collins o Aberdâr, a chawsant un ferch, Rhiannon (ganwyd1968). Bu farw ym Mhorthaethwy ar 29 Gorffennaf 1992. Trosglwyddwyd ei lawysgrifau i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-03
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.