Ganed Ian Parrott ar 5 Mawrth 1916 yn Streatham, Llundain. Roedd ei dad, Horace Bailey Parrott (1883-1953), yn beiriannydd a weithiai i'r British Oxygen Company, ac roedd ei fam Muriel Annie (ganwyd Blackford, 1883-1958) yn bianydd dawnus. Cafodd Ian hyfforddiant cynnar ar y piano gan ei fam, a gwersi preifat gan y cyfansoddwr Benjamin Dale. Addysgwyd ef yn ysgol Harrow (1929-31), y Coleg Cerdd Brenhinol (1932-4) a'r Coleg Newydd, Rhydychen (1934-7). Bu'n athro yn Malvern o 1937 hyd 1939 a graddiodd yn D. Mus. (Rhydychen) yn 1940. Gwasanaethodd yn y fyddin yn y Corfflu Signalau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a threuliodd amser yn yr Aifft, a ysbrydolodd ei ddarnau i gerddorfa, El Alamein (1944), a Luxor, a enillodd iddo wobr gyntaf y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 1949. Yn 1946 cawsai ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Birmingham, ac yna yn 1950 fe'i penodwyd i Gadair Gerdd Gregynog yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, swydd a ddaliodd tan ei ymddeoliad yn 1983. Gwelodd dwf sylweddol ym maint yr Adran Gerdd, ac ymhlith ei ddisgyblion yno yr oedd y cyfansoddwyr William Mathias a David Harries.
Cymerodd Ian Parrott ddiddordeb byw yn nhraddodiadau cerddorol gwlad ei fabwysiad; dysgodd Gymraeg, a mynnai gael ei ystyried yn gyfansoddwr Cymreig. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru yn 1959. Ailsefydlodd Ŵyl Gregynog a bu'n arwain yno am ddeng mlynedd. Gwnaeth ddefnydd helaeth o alawon gwerin Cymreig yn ei opera The Black Ram (1957), sy'n seiliedig ar stori o Ffynnon Bedr, ger Llanbedr Pont Steffan, ac mae ei osodiad o'r gwasanaeth cymun, A Welsh Folk Mass, hefyd yn defnyddio cerddoriaeth draddodiadol. Cyfansoddodd yn helaeth i gerddorfa hefyd, gan gynnwys yr agorawd Seithenyn (1959), a gomisiynwyd gan y BBC, ac Arfordir Ceredigion, darn comisiwn arall, a berfformiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1992. Lluniodd bum simffoni a phum pedwarawd llinynnol, a llu o ddarnau lleisiol ac offerynnol. Dyfarnwyd iddo nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Medal Gerddoleg Harriet Cohen yn 1966.
Ysgrifennodd weithiau i ieuenctid ar werthfawrogi cerddoriaeth: Pathways to Modern Music (1947) ac A Guide to Musical Thought (1949); cyfrol ar weithgarwch cerddorol Gregynog yng nghyfnod Gwendoline a Margaret Davies, The Spiritual Pilgrims, ac astudiaethau o'r cyfansoddwyr Edward Elgar, Peter Warlock a Cyril Scott. Cyhoeddodd hunangofiant, Parrottcisms, yn 2003.
Priododd yn 1940 ag Elizabeth (bu farw 1994), a chawsant ddau fab. Priododd eilwaith yn 1996 â Jeanne Peckham (bu farw 2010). Bu ef farw 4 Medi 2012 a chynhaliwyd ei angladd yn eglwys Llanbadarn Fawr 12 Medi. Claddwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llanbadarn.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-04
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.