DAVIES, MARGARET SIDNEY (1884 - 1963), casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd

Enw: Margaret Sidney Davies
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1963
Rhiant: Mary Davies (née Jones)
Rhiant: Edward Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Dyngarwch
Awdur: Glyn Tegai Hughes

chwaer Gwendoline Elizabeth Davies Ganwyd yn Llandinam, Trefaldwyn, 14 Rhagfyr 1884. Er mai ar y cyd â'i chwaer y cyflawnwyd y rhan fwyaf o'i gweithgarwch, yr oedd hi ei hun yn arlunydd amatur eithaf derbyniol. Yr oedd ' Miss Daisy ' fel y gelwid hi fynychaf, yn fwy confensiynol ei chwaeth na'i chwaer, ond ar ôl marwolaeth Gwen fe helaethodd ei chasgliad o beintiadau i gynnwys Bonnard, Kokoschka, Sisley, Utrillo ac eraill. Hefyd fe brynodd weithiau gan arlunwyr Prydeinig cyfoes, gyda'r bwriad o osod seiliau casgliad teithiol wedi iddynt gael eu gadael i'r Amgueddfa Genedlaethol.

Derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1949, ac yn 1960 fe gyflwynodd ei chartref a'r ystad yn rhodd haelionus i'r Brifysgol, i'w defnyddio'n ganolfan breswyl gynadleddol a chelfyddydol. Fe barhaodd hithau i fyw yn y neuadd fel deiliad hyd ei marw yn Llundain ar 13 Mawrth 1963. Claddwyd ei llwch yn Llandinam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.