Ganwyd Meic Stephens ar 23 Gorffennaf 1938 yn 50 Meadow Street, Trefforest, mab hynaf Arthur Stephens, gweithiwr gorsaf b?er, a'i wraig Alma (g. Symes). Roedd ganddo frawd iau yr ymddieithriodd oddi wrtho.
Byd glo, diwydiant a thraciau rheilffordd oedd Trefforest yr adeg honno, Saesneg ei iaith ond Cymreig iawn ei natur. Mynychodd Stephens Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd ac aeth ymlaen i astudio Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle daeth yn genedlaetholwr, fel sawl un o'i flaen ac ar ei ôl. Mabwysiadodd y sillafiad Cymraeg 'Meic' ond roedd yn falch o fod yn genedlaetholwr Saesneg ei iaith. Meddai yn ei hunangofiant, 'Ro'n i o'r farn y dylai Cymru lywodraethu ei hunan fel mater o egwyddor, a do'dd fy safbwynt ddim wedi ei seilio ar iaith a thir, a o'dd, yn fy marn i, yn perthyn i'r asgell dde.' Cyfaddefodd ei fod yn edrych i lawr braidd ar fyfyrwyr Cymraeg o gefndir gwledig gan eu hystyried yn ynysig eu diwylliant, rhagfarn na fu iddo fyth gefnu arni'n llwyr. Ei Gymru ef oedd y de-ddwyrain diwydiannol lle y bu'n byw bron ar hyd ei oes.
Fel rhan o'i gwrs gradd treuliodd flwyddyn yn Llydaw, ac yno yr ysgogwyd y diddordeb a arweinioddd at ei lyfr a gyhoeddwyd yn 1976, Linguistic Minorities in Western Europe. Dechreuodd ddysgu Cymraeg, a chafodd wersi gan Islwyn Ffowc Elis tra'n hyfforddi fel athro ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n athro ysgol yng Nglyn Ebwy 1962-66.
Un noson yn nhafarn yr Old Arcade yng Nghaerdydd cwrddodd â Harri Webb; aeth siaced Stephens ar dân gan daniwr sigaréts ac arllwysodd Webb beint o Guinness drosto. Roedd gan y ddau lawer yn gyffredin - barddoniaeth, llenyddiaeth Ewropeaidd, cenedlaetholdeb, ysbryd y Cymoedd - a daethant yn gyfeillion oes. Yn 1962 ar wahoddiad Webb symudodd Stephens i Garth Newydd ym Merthyr Tudful, t? mawr a oedd yn ddiberchennog i bob golwg ac a ddaeth yn fath o gomiwn ar gyfer delfrydwyr, llenorion, radicaliaid a chenedlaetholwyr. Yn ddiweddarach golygodd Stephens Collected Poems Harri Webb (1995).
Roedd Stephens yn weithgar yn wleidyddol a chymerodd ran ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963. Roedd yn rhyfelwr graffiti cyfresol ac ef a baentiodd y slogan gwreiddiol 'Cofiwch Tryweryn' ger Llanrhystud, delwedd sydd bellach yn eiconig. Mae llun ohono'n codi Gwynfor Evans i fyny ar noson y fuddugoliaeth enwog yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966. Stephens ei hun oedd ymgeisydd Plaid Cymru ym Merthyr yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn honno, ond dyna ddiwedd ar ei yrfa wleidyddol uniongyrchol.
Priododd Ruth Meredith o Aberystwyth yn 1965 a magasant bedwar o blant, Lowri, Heledd, Brengain a Huw, yn eu cartref Cymraeg yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Mae ei fab Huw Stephens yn gyflwynydd radio a theledu, yn Saesneg a Chymraeg, yn arbenigo ar gerddoriaeth a'r celfyddydau.
Wedi cyfnod byr fel newyddiadurwr ar y Western Mail dechreuodd Stephens ar waith mawr ei fywyd fel cyfarwyddwr llenyddiaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru o 1967 i 1990. Roedd eisoes wedi gwneud ei farc trwy lansio'r gwasgnod Triskel a'r cylchgrawn Poetry Wales (1965) a gyhoeddodd waith Harri Webb, Roland Mathias, Herbert Williams, Dannie Abse, Gillian Clarke ac Anthony Conran ymhlith eraill.
Roedd cyfnod Stephens gyda Chyngor y Celfyddydau'n cyd-fynd â blynyddoedd o ehangu datganoli gweinyddol a chyllido cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau. Roedd llên Saesneg Cymru yn berthynas dlawd, heb hunaniaeth gyson, heb hyrwyddwyr na chymuned ddiddordeb naturiol fel yr Eisteddfod yn achos yr iaith Gymraeg. Roedd Stephens yn weinyddwr galluog ac yn ysgogwr ymroddedig ar ran llên Saesneg Cymru. Roedd y ffaith ei fod wedi dysgu'r Gymraeg yn rhugl yn rhoi hygrededd iddo a dealltwriaeth gymharol o'r ddwy lenyddiaeth.
Trwy gydweithrediad â phobl fel T. J. Morgan, Roland Mathias, Glyn Tegai Hughes ac M. Wynn Thomas, sefydlwyd amgylchedd cyhoeddi cadarn, esgorwyd ar gylchgronau llenyddol (ambell un yn fyrhoedlog), cefnogwyd awduron a gosodwyd llên Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol trwy raglen gyfnewid fywiog. Derbyniodd y darpar enillydd Nobel Derek Walcott wobr ryngwladol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ymweld â phrifysgolion Cymru, ac felly hefyd Margaret Atwood ifanc.
Ar ôl gadael Cyngor y Celfyddydau yn 1990 daeth Stephens yn awdur llawrydd, ac o 1994 bu'n dysgu newyddiaduraeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg, y prif gyflogwr yn ei dref enedigol erbyn hynny. Penodwyd ef yn Athro Llên Saesneg Cymru yno yn 2000, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 2005. Dyfarnodd Prifysgol Cymru MA er Anrhydedd iddo yn 2000, ac fe'i gwnaed yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth ym Mai 2018.
Roedd Stephens yn awdur a golygydd toreithiog. Golygodd Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986) a chyda Dorothy Eagle The Oxford Illustrated Literary Guide to Great Britain and Ireland (1992), yn ogystal â nifer o ganllawiau a chasgliadau am lenyddiaeth Cymru a'i diwylliant. Fel awdur ysgrifau coffa cofnododd fywydau ei gyfoeswyr nodedig yn The Independent; casglwyd yr ysgrifau hyn mewn tair cyfrol, Necrologies: A Book of Welsh Obituaries (2008), Welsh Lives (2012) a More Welsh Lives (2018). Enillodd ei gofiant Rhys Davies: A Writer's Life (2014) wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru. Ef oedd sylfaenydd ac ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Rhys Davies sy'n hyrwyddo ffuglen fer yng Nghymru. Un o'i gampweithiau mwyaf oedd The Old Red Tongue (2017), blodeugerdd enfawr o lenyddiaeth Gymraeg mewn cyfieithiad a gydolygodd gyda Gwyn Griffiths.
Yn 2012 cyhoeddodd ei hunangofiant difyr, Cofnodion; ymddangosodd fersiwn Saesneg yn ddiweddarach, My Shoulder to the Wheel (2015). Sonia am dderbyn copi o Selected Poems Idris Davies yn anrheg ben-blwydd gan ei dad-cu yn ddwy ar bymtheg oed. Ysgogodd y gyfrol honno angerdd nid annhebyg i'r profiad o syrthio mewn cariad am y tro cyntaf - angerdd na fu pall arno fyth. Cofiodd ei gyfnod gyda Chyngor y Celfyddydau, gan dalu teyrngedau i gyfeillion, disgrifio achosion achwyn a thalu ambell bwyth yn ôl. Dyn pendant ei farn oedd Meic Stephens, ac fe'i rhannodd yn hael.
Tua diwedd ei fywyd bu'n barddoni yn Gymraeg gan gystadlu'n gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyfynna'n helaeth o'i gerddi ei hun mewn pennod faith yn ei hunangofiant, gan esbonio sut y cafodd gam yng nghystadleuaeth y Goron oherwydd ei ddefnydd o'r Wenhwyseg, tafodiaith hanesyddol de-ddwyrain Cymru ac un y credai fod gan y sefydliad llenyddol ragfarn yn ei herbyn. Yn 2014 cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi Cymraeg, Wilia - Cerddi 2003-2013.
Roedd Meic Stephens yn ffigwr hollbwysig yn natblygiad llên Saesneg Cymru yn rhan olaf yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennodd yn doreithiog mewn sawl genre - barddoniaeth, ffuglen, beirniadaeth, newyddiaduraeth, ysgrifau coffa, hunangofiant - ond fel golygydd, cyhoeddwr, hyrwyddwr a gweinyddwr yr oedd ar ei fwyaf dylanwadol. Er na fu yn y rheng flaen fel bardd nac awdur creadigol, bydd unrhyw un sy'n astudio llenyddiaeth a diwylliant Cymru yn cael achos i droi at ei weithiau. Gwnaeth gyfraniad enfawr i lenyddiaeth y genedl.
Bu Meic Stephens farw yng Nghaerdydd ar 2 Gorffennaf 2018. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yng Nghapel y Crwys ac yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, ar 20 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-05-17
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.