WEBB, HARRI (1920 - 1994), llyfrgellydd a bardd

Enw: Harri Webb
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 1994
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd a bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu

Ganwyd Harri Webb ar 7 Medi 1920 yn 45 Heol Tŷ Coch, Sgeti, Abertawe, yn fab i William John Webb (1890-1956), fforman ym mhwerdy Tir John North yn Abertawe a hanai o deulu ffermio ym Mhenrhyn Gŵyr, a'i wraig Lucy Irene (g. Gibbs, 1890-1939), merch i weithiwr ar ystâd Kilvrough. Symudodd y teulu yn 1922 i 58 Catherine Street yn ardal Sain Helen o Abertawe. Ei enw bedydd oedd Harry, a mabwysiadodd y sillafiad Cymraeg Harri tua 1950 yn fuan ar ôl iddo ddechrau cyhoeddi ei farddoniaeth. Roedd ganddo hanner brawd, Michael Webb, o ail briodas ei dad.

Aeth Webb i ysgol gynradd yn Stryd Rhydychen, ac i Ysgol Uwchradd y Bechgyn Glanmôr yn yr Uplands. Roedd yn ddisgybl eithriadol ac ef oedd y cyntaf o'i ysgol i ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen. Cyhoeddodd y prifathro hanner diwrnod o wyliau i'r ysgol gyfan i ddathlu ei gamp, digwyddiad a fu'n destun balchder parhaus i Webb. Yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, astudiodd ieithoedd modern ac, yn ei eiriau ei hun, 'gweithiodd, meddwodd a dysgodd ysmygu.' Amharwyd ar ei amser yn Rhydychen yn 1939 gan farwolath ei fam, yr oedd yn meddwl y byd ohoni. Dyfarnwyd gradd yn y trydydd dosbarth iddo ac agorodd rhwyg rhyngddo a'i dad. Ni fu cymodi rhyngddynt ac nid aeth Harri i angladd ei dad.

Ar ôl graddio gwirfoddolodd Webb i'r Llynges Frenhinol gan wasanaethu ar nifer o longau yn ystod y rhyfel. Roedd ar fwrdd HMS Tetcott, distrywlong 'Hunt-class' Teip 2, y llong olaf i adael Tobruk pan syrthiodd i'r Almaenwyr. Flynyddoedd yn ddiweddarach cofiodd y profiad arswydus o gael ei blymfomio ar y môr ond mynegodd edmygedd mawr tuag at Rommel. Ar ôl y rhyfel cafodd ei ddadfyddino i'r Alban lle arhosodd am sbel yn ansicr sut i symud ymlaen â'i fywyd.

Dychwelodd i Gymru yn 1946 a chymryd swydd yng Nghaerfyrddin gyda Keidrych Rhys, sefydlydd y cylchgrawn Wales a'r Druid Press, a hyrwyddwr cynnar llenyddiaeth 'Eingl-Gymreig', fel y'i gelwid ar y pryd. Roedd Webb wedi dechrau sgrifennu barddoniaeth yn ystod y rhyfel, a chyhoeddwyd ei gerdd gyntaf yn 1949.

Ym 1954 symudodd i Ferthyr Tudful i gymryd swydd fel llyfrgellydd yn Nowlais, galwedigaeth a ddilynodd am ugain mlynedd heb fyth ennill cymhwyster proffesiynol. Bu'n byw yn Garth Newydd, tŷ ar Ffordd Aberhonddu nad oedd fel petai'n perthyn i neb ac a ddaeth yn gomiwn cenedlaetholwyr, a'i drigolion yn cynnwys Meic Stephens a ddaeth yn gyfaill agos iddo ac yn olygydd ar ei waith.

Wedi deng mlynedd yn Nowlais symudodd Webb i Lyfrgell Aberpennar lle'r arhosodd tan 1974, gan ymroi wedyn i sgrifennu'n llawn-amser (sgriptiau teledu a newyddiaduraeth yn ogystal â barddoniaeth). Roedd Webb wrth ei fodd fel llyfrgellydd, ond cymerodd y gwaith o ddifrif hefyd gan foderneiddio'r gwasanaeth trwy gaffael LPs i ateb y gofyn newydd am gerddoriaeth a chyflenwad o lyfrau a chylchgronau a apeliai at ferched.

Ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, a'i orau, oedd The Green Desert (1969). Dilynwyd hwn gan A Crown for Branwen (1974), Rampage and Revel (1977) a Poetry and Points yn 1983. Ymddangosodd llawer o'i gerddi am y tro cyntaf yn Poetry Wales yn ogystal â nifer o gylchgronau a phapurau newydd eraill. Cyhoeddwyd ei Collected Poems (1995) ar ôl ei farwolaeth, wedi ei olygu gan Meic Stephens. Daeth Webb yn adnabyddus i gyhoedd llenyddol Cymru yn y 1970au trwy ei ymddangosiadau cyson ar Poems and Pints BBC Cymru, rhaglen deledu a ddaeth â barddoniaeth a chomedi i ystafelloedd byw y genedl.

Roedd Webb yn genedlaetholwr milwriaethus, yn weithgar ym Mhlaid Cymru ac yn olygydd o 1962 i 1964 ar ei bapur, The Welsh Nation, a ddarparodd lwyfan iddo fynegi ei farn yn ddi-flewyn-ar-dafod. Safodd yn ymgeisydd seneddol yn etholiad cyffredinol 1970 ond, mewn gwirionedd, roedd Plaid Cymru'n rhy ddof iddo. Trwy'r 1950au roedd wedi bod yn rhan o fudiad Gweriniaethol Cymru - a gynhelid gan lond dwrn o bobl megis Gwilym Prys Davies, Cliff Bere, Huw Davies, Ithel Davies - a golygodd ei bapur newydd deufisol. Ni lwyddodd y mudiad i ennill cefnogaeth ar lawr gwlad, ac yn y pen draw symudodd Harri ymlaen i Blaid Cymru fel ail orau realistaidd.

Roedd Webb yr un mor ddadleugar yn ei farn am lenyddiaeth ac yr oedd am wleidyddiaeth. Roedd yn ddirmygus tuag at Dylan Thomas gan ei ystyried yn 'amherthnasol', a phrin yn llai dibrisiol o R. S. Thomas; er iddynt rannu'r un safbwynt gwleidyddol i raddau helaeth, roedd yn gas ganddo ddifrifoldeb sychdduwiol yr offeiriad.

Roedd cerddi Webb yn ferw o hiwmor a dychan, ond gallai hefyd sgrifennu'n gain gyda dyfnder a harddwch tyner. Sgrifennai am Gymru ac ar gyfer Cymru yn unig: petai bardd cenedlaethol yr adeg honno ef fyddai'r dewis cyntaf siŵr o fod. Saesneg oedd iaith y cyfan bron o'i farddoniaeth, er i'w gerdd Gymraeg wych 'Colli Iaith' ddod yn glasur a berfformiwyd yn aml wedi ei gosod i gerddoriaeth gan Meredydd Evans a'i chanu gan Heather Jones. Yn ei flynyddoedd olaf tueddai i ddilorni'r Saesneg gan honni mai yn y Gymraeg yr oedd yr unig waith o bwys, safbwynt gwleidyddol yn hytrach na llenyddol. Roedd wedi meistroli'r Gymraeg gan ddarllen yn helaeth a chyfieithu ei barddoniaeth, ac ymfalchïai yn nhafodiaith Dowlais, y math puraf o Gymraeg mewn bodolaeth yn ei farn ef.

Roedd ei olwg ar Gymru'n gyfyngedig yn ddaearyddol i gymoedd y De, Abertawe a Phenrhyn Gŵyr. Roedd yn wrth-Seisnig ond ni hoffai bobl gogledd Cymru chwaith a lluniodd bennill, 'Please Keep your Gog on a Lead'. Robert Williams Parry oedd bardd gorau Cymru yn ei farn ef, ac roedd ei edmygedd at Waldo Williams yn ymylu ar arwr-addoliaeth. Testun gofid mwyaf Webb oedd y ffaith fod llun o'r ddau gyda'i gilydd wedi methu datblygu, digwyddiad a gofnododd yn ei gerdd 'Waldo'.

Yn 1972 symudodd Webb i Gwmbach yng Nghwm Rhondda lle'r arhosodd tan ei ddyddiau olaf. Dirywiodd ei iechyd yn dilyn strôc yn 1986, ac er na sgrifennai ond ychydig daliodd ati i ddarllen yn awchus; roedd ei fflat yn llawn o silffoedd llyfrgell ymhob man. Aeth i gartref nyrsio yn Abertawe ychydig cyn ei farwolaeth ar 31 Rhagfyr 1994. Fe'i claddwyd yn Eglwys y Santes Fair ym Mhennard, Penrhyn Gŵyr, ar 6 Ionawr 1995.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-01-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.