EVANS, MEREDYDD ('MERÊD') (1919 - 2015), ymgyrchydd, cerddor, athronydd a chynhyrchydd teledu

Enw: Meredydd Evans
Dyddiad geni: 1919
Dyddiad marw: 2015
Priod: Phyllis Evans (née Kinney)
Plentyn: Eluned Evans
Rhiant: Richard Evans
Rhiant: Charlotte Evans (née Pugh)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ymgyrchydd, cerddor, athronydd a chynhyrchydd teledu
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Perfformio; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: R. Arwel Jones

Ganwyd Merêd yn Nhop Pentre, Llanegryn, Sir Feironnydd, ar 9 Rhagfyr 1919, yr ieuengaf o blant Charlotte Evans (g. Pugh, 1881-1965) a'i gŵr Richard Evans (1867-1936), peiriannydd. Ganwyd iddynt un ar ddeg o blant, ond pump arall yn unig a oroesodd fabandod, sef: Elizabeth (1900-1990), John (Jac, 1904-1975), Francis (Frank, 1906-1977), William (Wil, 1910-1984) a David (Dei, 1913-1996).

Yn fuan wedi geni Merêd aeth ei dad a'i frawd hynaf Jac i weithio i chwarel wenithfaen y Foel, a fis cyn pen blwydd cyntaf y bychan symudodd gweddill y teulu i fyw atynt ym Mryn Mair, Tanygrisiau.

Cymdeithas dlawd oedd hon, ond un a oedd ar yr un pryd yn gyfoethog mewn nifer o ffyrdd. Roedd y chwarel yn lle caled i weithio. Dirywiodd iechyd ei dad dros dair blynedd a bu farw o'r silicosis pan oedd ei fab ieuengaf yn un ar bymtheg oed. Fodd bynnag, roedd yr aelwyd yn un gynnes a diwylliedig. Roedd y fam yn mwynhau darllen yn eang ac fe anogwyd y plant i garu darllen yn yr un modd, arfer a atgyfnerthwyd gan Jac ei frawd dylanwadol, a fenthycai lyfrau iddo. Gan ei fam y dysgodd rai o'r caneuon gwerin, ac y magwyd ynddo y cariad at y traddodiad a fyddai'n ganolog i weddill ei fywyd.

Roedd ei dad a'i frawd Jac yn ddynion o egwyddor ac yn sosialwyr (roedd y tad yn aelod o'r ILP). Pan ddirywiodd iechyd y tad fe brofodd gefnogaeth ei gymdeithas a'i gydweithwyr a fyddai'n ei gludo i'r gwaith, er na allai weithio, ac yn gwneud ei waith trosto er mwyn iddo ennill cyflog. Mynnai Merêd fod hon yn wladwriaeth les cyn bod Gwladwriaeth Les. Yr aelwyd hon a'r gymdeithas ddiwylliedig, Gristnogol yn y pentref oedd y fagwraeth a feithrinodd yn Merêd yr egwyddorion sylfaenol rheiny y bu'n driw iddynt gydol ei oes.

Ni lwyddodd i ennill 'scholarship' i fynd i'r ysgol ramadeg ac yn 1930 dechreuodd yn y Central School, Blaenau Ffestiniog. Yno fe'i dysgwyd gan yr awdur John Ellis Williams a fu'n ddylanwad mawr arno. Ond erbyn 1934, ac yntau ond yn 14 oed, a iechyd ei dad yn dirywio, bu'n rhaid iddo adael yr ysgol a dechrau gweithio yn y Co-op (y Coparét). Bu hwn yn gyfnod ffurfiannol a doedd dim pall ar ei awydd i ddysgu. Byddai Merêd a chriw o gyfeillion yn benthyg, darllen a thrafod cyfrolau dysgedig yn rheolaidd.

Erbyn 1938 roedd wedi dechrau ar y broses o gael ei dderbyn i'r weinidogaeth ac yn pregethu'n lleol. Yn ystod yr un cyfnod, cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol. Byddai heddychiaeth ac ymlyniad at ddulliau di-drais yn un arall o'i egwyddorion sylfaenol.

Ym mis Medi 1940 gadawodd y Coparét a mynd i Goleg Clwyd, Y Rhyl, i ddilyn cwrs rhagbaratoadol ar gyfer y weinidogaeth. Flwyddyn yn ddiweddarach cofrestrodd ym Mhrifysgol Bangor i barhau â'i baratoadau. Roedd yn fyfyriwr diwyd, disglair a direidus. Fodd bynnag, ym mis Medi 1943, ar ôl llawer o wewyr calon, penderfynodd beidio â gorffen y cwrs ar gyfer y weinidogaeth a dilyn gradd mewn athroniaeth a gwblhaodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn haf 1945. Aeth ymlaen i ddilyn cwrs MA ac i fod yn Llywydd Cyngor y Myfyrwyr yn 1946-7. Er cefnu ar y weinidogaeth, ni chefnodd erioed ar ei ffydd a pharhaodd i arddel ac arfer ei Gristnogaeth.

Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, a stiwdios y BBC ar y trothwy, fe'i hudwyd gan y cynhyrchydd dawnus Sam Jones i ymddangos ar ei raglen radio boblogaidd Noson Lawen. Yn fuan roedd Merêd, fel un o Driawd y Coleg (gyda Robin Williams a Cledwyn Jones), yn ganolog i lwyddiant y rhaglen, yn aml yn cyfansoddi'r geiriau a'r alawon i'w caneuon bachog. Roedd y rhaglen yn eithriadol o boblogaidd, ac ar un adeg amcangyfrifwyd bod 20% o'r boblogaeth yn gwrando arni. Golygodd hyn bod 'Merêd' yn enw cyfarwydd yng Nghymru benbaladr pan oedd yn ŵr cymharol ifanc.

Yno, ym Mryn Meirion, Bangor, ym mis Mawrth 1947 y cyfarfu Merêd â Phyllis Kinney (g. 1922), cantores opera o Pontiac, Michigan. Fe'u priodwyd y gwanwyn canlynol ar 10 Ebrill 1948 a ganwyd un ferch iddynt, Eluned, yn 1949. Bu hon yn briodas hir a hapus ar y cyfan a bu Phyllis yn gefn cyson i'w gŵr prysur am yn agos i 67 mlynedd.

Yn fuan ar ôl cyfarfod Phyllis penodwyd Merêd yn diwtor athroniaeth a gwleidyddiaeth yng Ngholeg Harlech a bu yno hyd 1950 pan ymunodd â staff golygyddol Hughes a'i Fab yng Nghroesoswallta dechrau cyfrannu i'r Cymro. Yno y dechreuodd cyfeillgarwch oes â'r golygydd dylanwadol John Roberts Williams.

Fodd bynnag, ddwy flynedd yn ddiweddarach fe ddychwelodd i'r byd academaidd a gadael Cymru i gyflawni PhD mewn athroniaeth yn Princeton, New Jersey. Graddiodd yn haf 1955 a derbyn swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Boston.

Profodd y darlithydd golygus a disglair yn boblogaidd gyda'r myfyrwyr ac fe'i dewiswyd yn ddarlithydd y flwyddyn yn 1959. Gwnaeth un o'r myfyrwyr y sylw canlynol am ei ddarlithoedd: 'It's like going to a play - there's an air of expectancy. You never know what extraordinary point he's going to make - or what ordinary point in an extraordinary way.'

Yn y cyfnod hwn fe welwyd y cwmnïwr difyr yn cadw cwmni yr un mor ddifyr. Cyfarchai Einstein ar ei ffordd i'r gwaith, bu'n trafod gydag Arthur Miller (a Marilyn Monroe), yn dathlu pen blwydd Augustus John ac yn partïo gyda Richard Burton a Hugh Griffith. Ond er ei fod yn gyfforddus gyda'r enwocaf a'r disgleiriaf, yr hyn oedd yn fwyaf arbennig amdano oedd ei fod yr un mor gyfforddus yng nghwmni pobl gyffredin eu dysg a'u dawn, a phawb yn gyfforddus yn ei gwmni yntau. Yn 1954 recordiodd, yn fyrfyfyr, LP yn dwyn y teitl Welsh Folk Songs gyda churadur o'r Smithsonian o'r enw Moe Asch. Dewiswyd hon yn un o LPs gorau'r flwyddyn gan y New York Times.

Ond roedd ei wreiddiau'n tynnu a gadawyd mamwlad Phyllis i ddychwelyd i Gymru yn 1960 pryd y penodwyd ef i olynu Cynan yn Adran Efrydiau Allanol, Bangor. Ond cyn pen dim fe fyddai'n newid trywydd unwaith eto pan benodwyd ef yn 1963 yn Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru. Treuliodd ddegawd eithriadol o lwyddiannus yn sefydlu'r gwasanaeth newydd, yn adnabod talentau newydd fel Meic Stevens, Ryan Davies a Margaret Williams, yn mynnu'r gorau i'r gwasanaeth Cymraeg ac yn comisiynu cyfresi fel Hob y Deri Dando, Fo a Fe, Disc a Dawn a Ryan a Ronnie, cyfresi a ystyrir yn glasuron, a thalentau sydd hyd heddiw gyda'r disgleiriaf a welodd Cymru. Fe ymgeisiodd am swydd Pennaeth Rhaglenni yn 1969 ond heb lwyddiant ac nid heb elfen o ryddhad, efallai. Yn yr un flwyddyn fe gefnodd ar y diwylliant o yfed trwm a oedd wedi nodweddu ei fywyd cymdeithasol, ac ymwrthododd ag alcohol o hynny ymlaen.

Yn fuan wedyn dechreuodd ar gyfnod eithriadol o gynhyrchiol a fyddai'n parhau i'r diwedd un, bron i hanner canrif yn ddiweddarach. Yn 1970 sefydlodd Y Dinesydd, papur Cymraeg Caerdydd, rhagflaenydd, os nad y cyntaf o'r degau o bapurau bro a fyddai'n ymddangos ledled Cymru. Daeth yn gefnogwr amlwg i ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac erbyn 1973 teimlai'n anniddig oddi fewn i sefydliad caethiwus a Seisnig fel y BBC. Dychwelodd i'r byd academaidd ac ymunodd ag Adran Efrydiau Allanol, Caerdydd, lle byddai'n gyfrifol am y ddarpariaeth Gymraeg hyd ei ymddeoliad yn 1985. Bu'n gyfrifol am gynnal a threfnu llu o ddosbarthiadau ar lenyddiaeth, cerddoriaeth werin, athroniaeth ac yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Yn dilyn marwolaeth yr athronydd J. R. Jones yn 1970, etifeddodd y rôl o fod yn lladmerydd moesol y mudiad cenedlaethol yn dadlau'r achos yn gyson ac yn ddi-ildio dros hawliau'r iaith a hawliau'r Cymry i gyflawni torcyfraith di-drais er mwyn mynnu'r hawliau hynny iddi. Ac nid ymgyrchydd cadair freichiau mohono. Daeth yn fwyfwy amlwg fel ymgyrchydd yn torri'r gyfraith ar nifer o achlysuron, yn eu plith diffodd mast darlledu Pencarreg yn 1979 gyda Ned Thomas a Pennar Davies yn yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg. Tynnodd y sefydliad diwylliannol a gwleidyddol i'w ben wrth ddefnyddio'i araith fel Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1986 i ymosod ar lywodraeth y dydd am anwybyddu'r mewnlifiad llethol i gefn gwlad Cymru. Yn 1993 torrodd i mewn i Lys y Goron Caerfyrddin gyda nifer o Gymry amlwg a dinistrio cadair y barnwr yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd. Bu'n Llywydd ymroddedig ar Gylch yr Iaith o 1996 a gweithiodd yn ddiflino i warchod Cymreictod S4C a Radio Cymru. Bu'n fodlon wynebu carchar yn ei henaint ond i gyfeillion oedd yn poeni am ei iechyd dalu'r ddirwy ar ei ran. O 1998 bu'n ganolog yn yr ymgyrch i sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, hyd nes yr enillwyd y frwydr yn 2011. Wedi hynny ymroddodd i gefnogi'r Coleg trwy sefydlu Ymddiriedolaeth Cronfa Goffa William Salesbury a Chyfeillion y Coleg.

Yn fuan cyn ei ymddeoliad yn 1985 symudodd Merêd a Phyllis i fyw yn barhaol i Afallon, Cwmystwyth yng Ngheredigion. Prynwyd y tŷ yn 1972 gyda golwg ar ymateb i alwad Adfer i adfeddiannu'r broydd Cymraeg. Dros ddeng mlynedd ar hugain gwnaeth y ddau gyfraniad aruthrol i'r ardal yn cefnogi, yn adfer, sefydlu a chynnal y gymdeithas ddiwylliannol, y capel, y papur bro, a'r eisteddfod ac yn dysgu Cymraeg i lu o'r mewnfudwyr oedd yn gymdogion iddynt. Er bod Cwmystwyth yn gymharol anghysbell tyfodd yr aelwyd i fod yn gyrchfan i bobl o bob oed, o ledled Cymru a'r byd a fyddai'n tyrru yno i fwynhau cwmni ac i elwa ar haelioni deallusol y ddau.

Un o fanteision Cwmystwyth oedd ei fod o fewn cyrraedd i'r Llyfrgell Genedlaethol a byddai'r ddau yn ymwelwyr aml a rheolaidd. Roeddynt wedi trwytho eu hunain yn hanes y caneuon a'r alawon gwerin. Ymddangosodd eu gwaith yn rheolaidd yn Canu Gwerin (Cylchgrawn y Gymdeithas Alawon Gwerin) a chyhoeddwyd nifer o gasgliadau o ganeuon yn seiliedig ar eu hymchwil yn ogystal â chasgliadau o ysgrifau yn olrhain hanes gwahanol elfennau o'r traddodiad. Cyhoeddwyd yr olaf, Serch a'i Helyntion, gan y Lolfa yn 2019, bedair blynedd ar ôl ei farwolaeth. Byddai'r ddau yn ymchwilio, a chan amlaf, yn cyhoeddi fel tîm ond roedd y ddau hefyd yn gallu cyfarch cynulleidfaoedd gwahanol wrth i Phyllis gyhoeddi i gynulleidfa Saesneg a Merêd i gynulleidfa Gymraeg. Yn 2007 cyhoeddwyd Cynheiliaid y Gân / Bearers of Song, cyfrol o ysgrifau yn deyrnged i'r ddau. Roedd yn gyfansoddwr ers dyddiau Triawd y Coleg, ac ef a gyfansoddodd y dôn 'Colli Iaith' i eiriau Harri Webb. Er iddo gael triniaeth ar ei wddf, parhaodd i ganu yn ei henaint. Fe'i recordiwyd am y tro olaf yn Nhanygrisiau, yn 2012 ar Bethel, CD Gai Toms (Gareth Tomos), a hynny yn y capel a fynychai Merêd yn blentyn, sydd bellach yn stiwdio i Gai. Byddai'n cyfansoddi barddoniaeth ar achlysuron arbennig ac ar gyfer y Cwrdd Bach yn y Cwm.

Ni chefnodd ar ei alwedigaeth wreiddiol, gan ymroi ar hyd y blynyddoedd i athronyddu yn Gymraeg. Cyhoeddodd gyfrol Gymraeg ar David Hume yn 1984 a chyfieithodd rai o destunau mwyaf astrus y cyfnod diweddar i Gymraeg gloyw. Bu'n weithgar gyda changen athroniaeth Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru, a'i ethol yn Llywydd yn 2007 ac yn Llywydd Anrhydeddus yn 2012.

Yn dilyn strôc fawr, bu farw ar 21 Chwefror 2015 yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth, a'i gladdu ym mynwent Capel Siloam, Cwmystwyth.

Roedd Merêd yn ddyn golygus, yn gymeriad swynol ac yn gwmnïwr difyr a allai wneud i'r cyffredin a'r ysgolhaig deimlo'n gyfforddus ac yn arbennig. Roedd yn angerddol am Gymru a'r Gymraeg, a gallai'r angerdd yn achlysurol godi'n dymer wyllt, ond heb fyth ddal dig. Anrhydeddwyd ef â DLitt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1998 a chymrodoriaethau er anrhydedd gan Brifysgolion Bangor, Aberystwyth, y Drindod Dewi Sant a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn 2015 anrhydeddwyd ef â'r Good Tradition Award, Gwobrau Gwerin Radio 2 ac yn 2019, i nodi canmlwyddiant geni Merêd, cyflwynwyd Gwobr Ysbrydoliaeth Gwobrau Cerddoriaeth Cymru iddo ef a Phyllis.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-12-02

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.