JONES, SAMUEL (1898-1974), newyddiadurwr, darlledwr a Phennaeth y BBC ym Mangor

Enw: Samuel Jones
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1974
Priod: Maud Ann Jones (née Griffith)
Plentyn: Dafydd Gruffydd Jones
Rhiant: Mary Ann Jones (née Jones)
Rhiant: Samuel Cornelius Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, darlledwr a Phennaeth y BBC ym Mangor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: R. Alun Evans

Ganwyd Sam Jones yng Nghlydach, Cwm Tawe, ar 30 Tachwedd, 1898, yn nawfed plentyn i Samuel Cornelius Jones (1865-1939), gweithiwr alcam a Mary Ann Jones (1866-1921). Ganwyd iddynt bymtheg o blant ond wyth yn unig a oroesodd fabandod, sef David Robert (ganwyd1887); Hannah Mary (ganwyd1889); Cornelius (ganwyd1890); Ifor (ganwyd1892); Annie (ganwyd1896); Garfield (ganwyd1897); Samuel (ganwyd1898) a Gwenhwyfar (ganwyd1905). Dyma deulu o Fedyddwyr o hil gerdd a oedd yn addoli yng nghapel Calfaria, Clydach.

Addysgwyd 'Sammy bach', fel y gelwid ef gan y teulu, yn yr ysgol gynradd leol ac yna, yn 1910/11, yn yr Ystalyfera County Intermediate School. Yn 1912 symudwyd yr ysgol i Bontardawe a'i galw yn Pontardawe Higher Elementary School. Ymunodd â'r Llynges ar 3 Medi, 1917 gan dreulio bron ddwy flynedd fel 'llumanwr' (ordinary signalman) cyn gadael y Llynges ar 10 Chwefror, 1919. Yn Hydref 1919 ail-afaelodd yn ei addysg ffurfiol fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol y coleg. Chwaraeodd i dîm rygbi'r coleg ac hefyd i'r tîm hoci. Enillodd ei dystysgrif addysg - ail ddosbarth - yn ei drydedd flwyddyn 1922-23. Graddiodd y flwyddyn ganlynol, 1924, mewn Cymraeg a Hanes.

Tra'n fyfyriwr ym Mangor cyfarfu â Maud Ann Griffith. Priodwyd y ddau ar 2 Medi 1933 yng nghapel y Wesleaid Cymraeg, Caerdydd. Ar 4 Mai 1942 fe anwyd eu hunig blentyn, Dafydd Gruffydd Jones, ymgynghorydd ariannol. Bu farw Mrs Maud Jones ar 3 Ionawr, 1974.

Ar 8 Medi 1924 dechreuodd Sam Jones ar ei yrfa fel athro yn Ysgol Harrington Road, Lerpwl. Yn Chwefror 1927 gadawodd Lerpwl, a throdd at newyddiaduraeth gyda The Western Mail yng Nghaerdydd. Bu'n newyddiadura rywfaint tra'n fyfyriwr ac eto fel athro mewn erthyglau i'r Liverpool Daily Post. 1927 hefyd oedd blwyddyn sefydlu y British Broadcasting Corporation yn lle'r British Broadcasting Company. Yn Nhachwedd 1932 denwyd Sam Jones yn rhan-amser at ddarlledu, ac at y BBC fel 'Welsh Assistant.' Cryfhau'r gwasanaeth radio Cymraeg oedd ei nod. Gadawodd The Western Mail yn derfynol yn 1933.

Yn 1935 hysbysebwyd swydd Cyfarwyddwr Rhaglenni'r BBC yng Nghymru. Tybiwyd mai swydd i Sam Jones oedd hon, gan iddo wneud y gwaith eisoes. Ond nid felly y bu. Siom fawr iddo oedd mai W. Hughes Jones (Elidir Sais) a benodwyd. Cynigwyd i Sam Jones wobr gysur o fod yn Bennaeth ar orsaf radio nad oedd eto'n bod ac a oedd cyn belled o Gaerdydd â phosibl - ym Mangor. Teitl y swydd oedd Cynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru. Ceisiodd rhai o'i ffrindiau ei gysuro a'i atgoffa o'r dyddiau dedwydd yn y coleg yno ac o'r olygfa tros y Fenai dlos. Ei ymateb oedd “I hate the bloody ditch!” Buan iawn y daeth dros y siom. Dechreuodd ar ei swydd fel Pennaeth y BBC ym Mangor ar 1 Tachwedd, 1935. Bwriodd ati ar unwaith i ddarganfod perfformwyr, cyfansoddwyr, sgriptwyr, actorion a cherddorion yn y gogledd.

Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws ei gynlluniau. Am gyfnod byr, o Fedi 1939 hyd Ionawr 1940 fe'i hanfonwyd i Lundain i gyfieithu bwletinau i'r Gymraeg. Erbyn diwedd yr haf 1940 roedd sŵn ym mrig y morwydd fod Adran Adloniant y BBC i'w symud o Lundain, yn gyntaf i Fryste, ac yna i Fangor. Cyrhaeddodd tros bedwar cant o brif adlonwyr Prydain i ddarlledu o ddiogelwch cymharol gogledd Cymru a buont yno hyd Awst 1943. Yr oedd tair cerddorfa wedi eu lleoli ym Mangor - y BBC Dance Orchestra, y BBC Revue Orchestra a'r BBC Variety Orchestra. O Fangor y darlledid 'ITMA' gyda Tommy Handley ac artistiaid eraill fel Jack Train, Fred Yule, Dorothy Summers, Maurice Denham, Sam Costa a Charlie Chester.

Dysgodd Sam Jones lawer iawn gan y Llundeinwyr am natur adloniant. Gwyddai hefyd am y perygl o ddynwared y Saeson. Yn lle hynny, aeth ati'n ddiymdroi i greu adloniant Cymraeg ar y radio. Ymhlith ei lwyddiannau yr oedd y 'Noson Lawen' gyda Thriawd y Coleg (Meredydd Evans, Cledwyn Jones a Robin Williams) a Charles Williams yn arwain, Bob Tai'r Felin, Côr Meibion Dyffryn Nantlle ac eraill - cyfuniad o ddoniau'r coleg ac o leisiau chwarelwyr ac amaethwyr. Rhaglenni poblogaidd eraill a gynhyrchwyd ganddo oedd 'Ymryson y Beirdd' (sy'n parhau hyd heddiw dan yr enw 'Talwrn y Beirdd'), 'Wedi'r Oedfa' (rhaglen o sgyrsiau ar nos Sul), 'Ymryson Areithio' (gornest rhwng holl golegau Cymru) a 'Pawb yn ei Dro' (adloniant pentrefol gyda'r pwyslais ar drin geiriau). Erbyn diwedd ei yrfa roedd teledu fel cyfrwng yn cynyddu yn ei boblogrwydd. Dyn radio oedd Sam Jones.

Ymddeolodd Sam Jones o'r BBC ar 30 Tachwedd, 1963. Yn yr haf y flwyddyn honno, ar 11 Gorffennaf 1963, cyflwynwyd iddo radd er anrhydedd o Ddoethuriaeth mewn Llên [D.Litt] gan Brifysgol Cymru mewn seremoni yn Neuadd y Brenin, Aberystwyth. Anrhydedd arall a ddaeth i'w ran oedd bod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy 1958.

Bu farw Sam Jones ar 5 Medi 1974. Yn Amlosgfa Bangor ar 9 Medi y bu'r angladd. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo ar 20 Medi 1974 yng nghapel Penuel [B] Bangor lle bu'n aelod. Yn y gwasanaeth hwnnw dywedodd Owen Edwards, a oedd yn Rheolwr y BBC yng Nghymru ar y pryd, fod Sam Jones “yn meddu'r ddawn i weithio ar dair tonfedd allweddol” sef y ddawn i fod ar yr un donfedd â'r gynulleidfa o wrandawyr radio, ar yr un donfedd â'r doniau a ddarganfu ac ar yr un donfedd â'r staff yr oedd yn eu harwain.

Yng Nghaerdydd y dechreuodd Sam Jones osod y seiliau trwy afael mewn diwylliant a oedd yn bod eisoes, yn eithaf eang, yn y Gymru Ymneilltuol, a'i roi ar y radio. Dyma ei gyfnod mwyaf arwrol. Dyma hefyd ei gyfnod anoddaf. Tra'r oedd yn ymwybodol o oblygiadau methiant, yr oedd Sam Jones yn fwy ymwybodol o'r cyfle i lwyddo. Ym Mangor bu'n llwyddiant ysgubol a thystiai llawer o'r doniau a ddarganfu yno mai gweithio i Sam yn hytrach nag i'r BBC oedden nhw, hynny yw gweithio i berson ac nid i sefydliad. Ef oedd y dyn iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. Ei arfau oedd ei egni diddiwedd a'i frwdfrydedd heintus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-10-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.