Ganwyd 1 Medi 1870 yn Nhai'r Felin, Cwmtirmynach, Bala, Meirionnydd, yn fab o briodas Cadwaladr Roberts, Tai'r Felin, â Betsi Rowlands, Cae Gwernog, Capel Celyn. Dilynodd grefft ei dad gartref fel melinydd a ffermwr. Ymbriododd ag Elizabeth Jane Roberts, o fferm y Fron-goch gerllaw, a magasant dri o blant. Yng nghapel Presbyteraidd Cwmtirmynach bu'n codi canu am gryn hanner can mlynedd, yn athro ysgol Sul i ddosbarth o ferched, ac etholwyd ef yn flaenor. Cyfrannodd i ddiwylliant cryf y fro gan ddilyn cyngherddau, cyrddau cystadleuol ac eisteddfodau; byddai hefyd yn cystadlu yn lled gyson ar yr englyn yn y brifwyl. Oherwydd ei lais cwbl arbennig, ynghyd â'i gyflwyniad cartrefol, daeth yn nodedig fel meistr ar ganu cerddi gwerin. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931 enillodd ar y gystadleuaeth cân werin. Tua'r cyfnod hwnnw y ffurfiwyd parti Tai'r Felin (sef Llwyd o'r Bryn (Robert Lloyd), John Thomas a'i ferch, Lizzie Jane, a Bob Roberts a'i ferch, Harriet), parti a fu'n diddanu ar lwyfannau Cymru, a hefyd rai troeon yn Lloegr. O 1944 ymlaen daeth i sylw cenedl gyfan wrth ganu ar Radio B.B.C. yn rhaglenni Sam Jones , ' Noson lawen '. Recordiwyd nifer o'i ganeuon gan Gwmni Decca a Teldisc; erbyn hyn mae dwy record hir o'i berfformiadau gan Gwmni Sain. Yn 1949 bu'n cymryd rhan mewn ffilm (a wnaed yn y Parc, Bala, ac yn Llundain) gyda Noson lawen yn deitl i'r fersiwn Gymraeg, a The harvest i'r fersiwn Saesneg. Bu'n canu hefyd o flaen y camerâu teledu yn Alexandra Palace yn Llundain. Bu'r cyhoeddusrwydd a roddwyd i Bob Roberts yn fodd i boblogeiddio yn ogystal ag i ddiogelu'r cerddi hyn, rhai fel 'Mari fach fy nghariad', 'Moliannwn', 'Gwenno Penygelli' etc., a bu cynnwys arnynt mewn detholiadau o ganeuon ar gyfer ysgolion. Yn 1959 golygodd Haydn Morris y llyfr, Caneuon Bob Tai'r Felin. Bu farw 30 Tachwedd 1951, a chladdwyd ef ym mynwent Llanycil gerllaw'r Bala. Yn 1961 sefydlodd Llwyd o'r Bryn gronfa i gofio'r melinydd a'i gân; bellach mae cofeb iddo ar fin y ffordd wrth lidiart Tai'r Felin.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.